Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu diwydiannol – gwybodaeth i gleifion

Cludiant Ambiwlans - 11 Ionawr

Mae Undeb Llafur GMB yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol ddydd Mercher, 11 Ionawr. O ganlyniad, mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cadarnhau nad yw’n gallu gwarantu y bydd cludiant ambiwlans yn cael ei ddarparu ar y diwrnod hwnnw. Nid effeithir ar y gwasanaethau a restrir isod, ond os ydych ar fin teithio mewn ambiwlans i glinig cleifion allanol ar gyfer unrhyw wasanaeth arall, yna fe’ch cynghorir chi i ddefnyddio trafnidiaeth amgen os yw’n bosibl.

Gwasanaethau Cleifion Allanol NAD YDYNT yn cael eu heffeithio gan y gweithredu diwydiannol:

  • Pob claf dialysis arennol
  • Pob claf oncoleg a chanser perthynol

Dylai unrhyw glaf sy’n mynd i apwyntiad brys ac yn methu â dod o hyd i drafnidiaeth amgen gysylltu â chanolfan alwadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar 0300 123 2303.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.