Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn ymweld â Bae Abertawe i gael gwybod mwy am ddatblygiadau arloesol digidol

Ymwelodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i gwrdd â rhai o'r tîm y tu ôl i ddatblygiadau arloesol digidol sy'n cefnogi darparu gofal, a'r staff clinigol sy'n eu defnyddio. Cafodd gyflwyniad ar Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR), Presgripsiynu Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau yr Ysbyty, (HEPMA) a Signal, system ddigidol Bae Abertawe sy'n cefnogi llif cleifion.

Isod mae ychydig o luniau o'r ymweliad, a chopi o ddatganiad Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau:

 

Gwella diogelwch, lleihau amseroedd aros ac arbed arian i GIG Cymru drwy ddulliau arloesi digidol newydd

 

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, wedi croesawu'r cynnydd ar ddatblygiadau yn y maes arloesi digidol sy'n helpu i leihau amseroedd aros ac arbed arian i GIG Cymru.

 

Ar ymweliad ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gwelodd y Gweinidog Iechyd â’i llygaid ei hun sut y mae’r cysyniad newydd o wardiau digidol yn trawsnewid prosesau cadw cofnodion y mae angen neilltuo tipyn o amser i’w cyflawni fel arfer. Bydd hyn o fudd i’r staff gofal iechyd yn ogystal â’r cleifion.

Mae dwy system ddigidol newydd sy'n cael eu cyflwyno ar draws Cymru gyfan yn allweddol i’r trawsnewidiad hwn: Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) a’r system ar gyfer rhoi presgripsiynau a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig (EPMA).

Mae’r systemau newydd yn arbed amser ac yn gwella effeithlonrwydd, yn hybu diogelwch cleifion ac ansawdd y gofal, ac yn arbed arian i’r byrddau iechyd.

Mae EPMA yn darparu system electronig ar gyfer rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn a gweinyddu meddyginiaethau i gleifion sydd yn yr ysbyty.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae’r system wedi bod yn gyfrifol am:

Arbed mwy na 2000 o oriau o amser presgripsiynydd bob blwyddyn drwy beidio â gorfod ail-ysgrifennu siartiau meddyginiaeth sydd wedi mynd ar goll, siartiau sydd â diffyg yn y cofnodion neu siartiau sy’n cynnwys cofnodion llawn yng Nghastell-nedd Port Talbot, a 3,600 o oriau pellach y flwyddyn yn Ysbyty Singleton.

Lleihau'r amser a dreulir ar un rownd gyffuriau, fesul nyrs, fesul ward, o ddeng munud yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac o 6 munud yn Ysbyty Singleton.

Arbed 3,300 o oriau nyrsio y flwyddyn yn chwilio am siartiau meddyginiaeth yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot a 5,600 o oriau y flwyddyn yn Ysbyty Singleton.

Lleihau’n sylweddol unrhyw wallau sy'n gysylltiedig â rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn a gweinyddu meddyginiaethau.

Bydd pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd arall yn dechrau gweithredu'r system o 1 Ebrill 2024.

Mae WNCR yn ei gwneud yn bosibl i staff gofnodi gwybodaeth am gleifion, a’i rhannu a chael mynediad ati, yn electronig ar draws wardiau, safleoedd ysbytai ac ardaloedd byrddau iechyd. Mae hefyd wedi safoni gwybodaeth sy’n cael ei chasglu am oedolion mewn ysbytai, gan ddileu amrywiadau ar draws y gwahanol fyrddau iechyd.

Mae pob bwrdd iechyd a'r rhan fwyaf o ysbytai ledled Cymru bellach yn defnyddio'r cofnod nyrsio electronig, a’r bwriad yw y bydd y gweddill yn gwneud hynny hefyd erbyn mis Mawrth 2024.

Yn ôl un darn o waith ymchwil, ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rhwng mis Awst 2021 a mis Gorffennaf 2023, cafodd 1,357,827 o ddarnau o ddogfennaeth bapur – sy’n cyfateb i 135 o goed – eu harbed oherwydd bod WNCR ar waith. Amcangyfrifwyd hefyd fod £1.66 yn llai yn cael ei wario ar argraffu fesul claf – gan arwain at arbedion blynyddol o tua £132,800.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd wedi datblygu ei system electronig ei hun ar gyfer rheoli llif cleifion, o'r enw Signal. Mae’r system hon yn helpu i fynd ymhellach eto i wella diogelwch cleifion a dileu unrhyw oedi o ran gofal cleifion. Mae diddordeb gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru mewn mabwysiadu'r system.  

Mae Signal yn cadw llygad digidol ar gleifion o'r amser y byddant yn cael eu derbyn i'r ysbyty hyd at yr amser y byddant yn cael eu rhyddhau. Mae'n golygu bod staff sy'n ymwneud â'u gofal yn ymwybodol o unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt i adael yr ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys manylion unrhyw becyn gofal y gallai fod ei angen arnynt cyn y gallant adael.

Mae’r system yn cael ei defnyddio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gefnogi sesiynau ar-lein i drafod pob claf sydd ar y bwrdd, sy’n cael eu cynnal gan y clinigwyr sy'n gofalu am y cleifion. Mae'n golygu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael yn ddigidol, mewn amser real, i bob aelod o'r tîm sy'n ymwneud â gofal y claf, ble bynnag y bo’r aelod o staff ar y pryd.

Mae Signal hefyd yn rhoi trosolwg i reolwyr ysbytai o'r hyn sy'n digwydd ym mhob maes clinigol. Mae'n rhoi gwybodaeth amser real hanfodol am gapasiti ar draws holl safleoedd y bwrdd iechyd, ac mae’n helpu i nodi meysydd a allai fod angen cymorth ychwanegol.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd:

“Mae manteision y systemau digidol newydd rydyn ni’n eu hariannu yn amlwg i bawb. Maen nhw’n symleiddio prosesau gweinyddol ar gyfer staff gofal iechyd ac yn rhoi mwy o amser iddyn nhw ganolbwyntio ar ofal cleifion.

“Yn ogystal â thorri amseroedd aros a gwella ansawdd y gofal, maen nhw hefyd yn arbed arian i fyrddau iechyd yn ystod cyfnod ariannol hynod heriol.

“Rydw i’n falch iawn o weld hefyd fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi datblygu eu system ddigidol eu hunain i helpu i gyflymu'r broses o ryddhau cleifion yn ddiogel o'r ysbyty. Mae’n hanfodol iddyn nhw allu gwneud hyn er mwyn gwella llif y cleifion drwy’r ysbytai a thorri amseroedd aros.

“Datblygiadau arloesol fel hyn yw’r union fath o atebion y mae angen inni eu rhoi ar waith i sicrhau Gwasanaeth Iechyd sy'n addas ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Matthew John, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

“Mae Signal yn enghraifft wych o glinigwyr a gweithwyr proffesiynol o’r maes digidol yn cydweithio i ddarparu atebion digidol sy'n golygu ei bod yn bosibl inni roi gofal gwell i'n cleifion.

“Mae clinigwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nawr yn gallu gweld gwybodaeth hanfodol am eu cleifion, ynghyd ag unrhyw gamau gweithredu sy’n weddill i’w cymryd, a hynny mewn amser real ac o unrhyw ddyfais. Mae hyn yn dileu unrhyw oedi a rhwystrau gweinyddol.”

Dywedodd Fran Beadle, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a ddatblygodd WNCR mewn partneriaeth â phob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yn GIG Cymru:

“Mae WNCR wedi trawsnewid nyrsio yng Nghymru drwy safoni dogfennau a darparu datrysiad digidol, er mwyn gwella diogelwch cleifion a phrofiad y claf. Cafwyd cydweithio, ymgysylltu a gwrandawyd ar adborth gan y staff nyrsio – dyna beth sydd wedi gwneud y prosiect hwn mor llwyddiannus."

 

Media filming the Minister Cyfryngau yn ffilmio dyfodiad y Gweinidog. Mae Is-gadeirydd y bwrdd iechyd, Steve Spill, yn cyfeilio.

 

The Minister meets some of the nursing staff at Neath Port Talbot Hospital, and welcomes our international nurses, who were also quick to praise the digital systems Mae'r Gweinidog yn cwrdd â rhai o'r staff nyrsio yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ac yn croesawu ein nyrsys rhyngwladol, a oedd hefyd yn gyflym i ganmol y systemau digidol.

 

Director of Digital Matt John explains some of the new digital systems now in place Mae Cyfarwyddwr Digidol Matt John yn esbonio rhai o'r systemau digidol newydd sydd bellach ar waith.

 

Our Deputy Director of Nursing, Hazel Powell greets the Minister Mae ein Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio, Hazel Powell yn cyfarch y Gweinidog.

 

The Minister chats to staff Y Gweinidog yn siarad â'r staff.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.