Neidio i'r prif gynnwy

Gallai cyfyngiadau symud y Pasg arwain at bwysau ychwanegol ar ysbytai prysur

Mae’r llun yn dangos sosban ar dân ar ben y pentan. Mae benyw yn pryderu.

Anogir pobl sydd ynghlwm i'w cartrefi yn ystod y cyfyngiadau symud i gymryd rhan i amddiffyn y GIG drwy gymryd gofal wrth goginio, peidio â rhoi gwastraff ar dân a lleihau eu risg dân.

Gall llosgiadau arwain at dderbyniad brys i'r ysbyty, llawfeddygaeth yn cynnwys impio croen a misoedd o adsefydlu, yn rhoi straen ychwanegol ar wasanaethau wrth i niferoedd cleifion godi oherwydd COVID-19.

Dywedodd gwasanaethau tân ac achub canolbarth a gorllewin Cymru mai tanau coginio yw prif achosion tanau yn y cartref.

Hefyd mae tanau trydan a socedi wedi’u gorlwytho yn achos pryder.

Ac wrth i rai gwasanaethau casglu gwastraff yr ardd a gynhelir gan y cyngor, a chanolfannau ailgylchu gau, mae rhai preswylwyr yn ystyried llosgi er mwyn cael gwared â’r gwastraff hwn.

Mae llawfeddyg plastig ymgynghorol Dean Boyce, cyfarwyddwr clinigol Canolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, yn annog pobl i gymryd gofal wrth i ni agosáu at benwythnos Gŵyl Banc y Pasg.

“Rydym ni yma o hyd pan fyddwch chi ein hangen ni, ond y peth olaf rydym ni eisiau gweld wrth i'r GIG fod dan bwysau digynsail yw anafiadau llosgi a thrawma a allent wedi’u hosgoi.

“Rydym ni’n pryderu yn arbennig oherwydd bod gwyliau banc gan amlaf yn golygu y bydd pobl yn defnyddio barbiciws, yn garddio ac yn gwneud DIY, a fydd yn arwain at gynnydd mewn cleifion. Ac mae cyfyngiadau symud COVID-19 yn golygu bod llawer mwy o bobl ynghlwm i'w cartrefi yn chwilio am bethau i'w gwneud.

“Byddwch yn ofalus a helpwch i amddiffyn y GIG gan osgoi unrhyw danau dianghenraid a chymryd gofal wrth goginio a defnyddio barbiciws y penwythnos y Pasg hwn”

Mae’r llun yn dangos tân gwyllt yn yr ardd sydd yn creu llawer o fwg. Gall tanau gardd a thanau sbwriel ledaenu’n wyllt yn hawdd.
Credyd Adobe Stock

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog pobl i gymryd camau syml er mwyn amddiffyn eu hunain a’u teuluoedd.

Meddai pennaeth gofal y gymuned a lleihau risg y gwasanaeth, rheolwr grŵp Dean Loader: “Boed eich bod chi’n gweithio gartref, yn hunan-ynysu neu’n ymbellhau’n gymdeithasol, rydym ni’n ymwybodol y byddwch chi’n treulio mwy o amser gartref dros yr wythnosau nesaf. Gallai hyn godi’r siawns ohonoch chi’n cael tân yn eich cartref, a allai arwain at niwed i'ch eiddo. Yn ffodus, wrth gymryd camau syml, gallwch leihau’r risg i chi a’ch teulu.

“Dros y mis diwethaf mae tanau coginio yn dal i fod yn brif achos tanau yn y cartref. Achos arall o danau yn y cartref yw pobl yn gadael pethau fel dillad a thyweli ar ben pentanau a gwresogyddion.

“Rydym ni hefyd wedi gweld tanau trydanol dros yr wythnosau diwethaf.”

Mae llosgi gwastraff y cartref a’r ardd yn “beryglus ac yn wyllt, a gall fod yn anodd ei reoli”, yn ôl y rheolwr grŵp, Karen Jones, pennaeth diogelwch y gymuned Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Rhaid i ni gyd chwarae rhan mewn amddiffyn ein GIG a’r gwasanaethau brys gan aros gartref er mwyn atal y feirws COVID-19 rhag lledaenu,” meddai.

“Ond wrth i ni aros gartref, mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n lleihau’r risgiau i'n hunain a pheidio â rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaethau brys.

“Yn ystod yr amseroedd digynsail hyn, rydym ni’n eich annog chi i beidio â meddwl am losgi’ch gwastraff cartref neu wastraff yr ardd. Rydym ni’n deall bod y hunan-ynysu a’r ymbellhau cymdeithasol yn creu cyfle i arddio neu lanhau’ch siediau. Fodd bynnag, gall llosgi gwastraff cartref neu wastraff yr ardd fod yn beryglus ac yn anrhagweladwy a gall fod yn wyllt.”

 

Camau i gadw’n ddiogel gan y gwasanaeth tân:

 

DDYLECH CHI DDIM

  • coginio heb wylio arno.
  • coginio ar ôl yfed alcohol.
  • defnyddio ffrïwr sglodion oherwydd bod olew poeth yn tanio’n gyflym.
  • gadael dillad neu dyweli ar ben pentanau neu wresogyddion.
  • llosgi gwastraff cartref neu wastraff yr ardd.
  • gorlwytho socedi – gall cordynnau estyn orlwytho’n hawdd.
  • parhau i ddefnyddio offer diffygiol.

 

DYLECH

 

  • ddefnyddio ffrïwr saim dwfn a reolir yn thermostatig os bydd angen i chi ddefnyddio ffrïwr saim dwfn i goginio’ch bwyd.
  • Gwirio os mae unrhyw un o’ch offer wedi’u galw yn ôl oherwydd rhesymau diogelwch - https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/product-recalls/
  • Sicrhau bod gennych larymau tân sydd yn gweithio, dylech eu gwirio’n rheolaidd a sicrhau bod gennych ffordd ddianc amlwg.
  • DYLECH DDIANC, CADW ALLAN A GALW’R GWASANAETH TÂN GAN FFONIO 999 OS BYDD TÂN YN DECHRAU,

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.