Neidio i'r prif gynnwy

Elusen yn sefydlu cartref newydd yn Singleton

YN Y LLUN: Daeth staff, codwyr arian a chefnogwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at ei gilydd ar gyfer agoriad swyddogol yr hwb elusennol newydd yn Ysbyty Singleton.

 

Mae Elusen Iechyd Bae Abertawe yn ehangu ar ôl agor ei hyb pwrpasol cyntaf yn Ysbyty Singleton.

Ar ôl gweithredu o'r blaen mewn canolfan dros dro ym mhencadlys y bwrdd iechyd ym Maglan, mae ganddo gartref newydd yn Singleton ar ôl cymryd lle'r hen siop bapurau newydd ger prif fynedfa'r ysbyty.

Mae Mae’r hwb ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (8yb-5yh) a bydd yn darparu ‘siop un stop’ i staff, cleifion ac ymwelwyr i gael gwybodaeth a diweddariadau ar brosiectau codi arian yr elusen a hefyd sut i wneud rhoddion neu ei chefnogi mewn ffyrdd eraill.

Agorodd y ganolfan yn swyddogol ddydd Iau, ac roedd uwch swyddogion y bwrdd iechyd yn bresennol.

YN Y LLUN: Agorodd y cerddor a’r diddanwr Mal Pope, sy’n hyrwyddo ymgyrch Cwtsh Clos yr elusen, yr hwb newydd yn swyddogol ynghyd â Nuria Zolle, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.

Mae elusen swyddogol y bwrdd iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth godi arian ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n cefnogi cleifion, tra mae hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella’r amodau gwaith a’r cymorth sydd ar gael i staff.

Dywedodd Lewis Bradley, Rheolwr Cefnogi Elusennau: “Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i sefydlu ein hyb elusen gyntaf.

“Defnyddiwyd rhan o grant a gafwyd gan Elusennau Gyda’n Gilydd y GIG i’w ddylunio tra bu Mecatronics Systems Wales Ltd hefyd yn helpu gyda darparu dodrefn, felly heb y cymorth hwnnw ni fyddem wedi bod mewn sefyllfa i agor yr hwb yn swyddogol.

“Nod yr hwb yw codi ymwybyddiaeth o amgylch rhai o’r prif ymgyrchoedd yn Ysbyty Singleton.

“Bydd hefyd yn caniatáu i ni ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach a staff i siarad am godi arian a sut mae 100 y cant o roddion yn mynd yn ôl i gefnogi prosiectau o fewn y bwrdd iechyd a fydd ag etifeddiaeth barhaus.

Mae “Os oes unrhyw un eisiau rhoi yn yr hwb gallant wneud hynny trwy god QR sy’n mynd â chi i dudalen y wefan, tra gellir gwneud rhoddion arian parod drwy ddesg y gwirfoddolwyr yn union gyferbyn ag ef.”

Mae'r elusen, sydd wedi cael ei hail-lansio, yn gyfrifol am nifer o gronfeydd ar gyfer wardiau a gwasanaethau amrywiol.

YN Y LLUN: Staff Elusen Iechyd Bae Abertawe Cathy Stevens, Mike Westerman a Lewis Bradley.

Dau o brif ymgyrchoedd yr elusen yn Singleton yw cronfa Canolfan Ganser De Orllewin Cymru (SWWCC) a Cwtsh Clos.

Mae SWWCC yn trin cleifion o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, ar draws Gorllewin Cymru gyfan ac mor bell i'r gogledd ag Aberystwyth, ynghyd â chleifion ymhellach i'r dwyrain i Ben-y-bont ar Ogwr, â thriniaethau cemotherapi a radiotherapi sy'n achub bywydau.

Mae ymgyrch Cwtsh Clos yn gobeithio codi £160,000 i dalu am adnewyddu pum eiddo sy'n cynnig llety cyfforddus a chroesawgar i deuluoedd sydd angen bod yn agos at eu babanod tra'u bod yn derbyn triniaeth yn Uned Gofal Dwys Newyddenedigol Singleton.

Mae yna lawer o gronfeydd eraill y gall y cyhoedd godi arian ar eu cyfer, gyda gwybodaeth ar gael yn yr hyb.

Felly os yw rhywun am roi rhywbeth yn ôl ar gyfer y gofal y mae ef neu rywun annwyl wedi'i dderbyn, mae'r elusen yn sicrhau y bydd yr arian a godir yn mynd yn uniongyrchol yno.

Mae Nid yw’r elusen yn disodli cyllid y GIG ond mae’n defnyddio rhoddion hael a dderbyniwyd gan gleifion, eu teuluoedd, staff a chymunedau lleol i ddarparu y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

Dywedodd Nuria Zolle, Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol: “Mae’n hynod bwysig bod yr elusen yn weladwy ac yn gallu cyrraedd cymaint o aelodau’r cyhoedd a staff y bwrdd iechyd â phosibl – mae’r hwb newydd yn rhoi’r cyfle hwnnw iddi.

YN Y LLUN: Mae’r hwb newydd wedi’i leoli ger prif fynedfa Ysbyty Singleton.

“Mae gwaith tîm yr elusen yn helpu i godi arian hanfodol sy'n helpu ein cleifion a'n staff, ac rwy'n falch iawn bod ganddo ganolfan bwrpasol yn Singleton.

“Gall yr elusen nawr barhau i dyfu a rhannu’r gwaith gwych y mae’n ei wneud, ynghyd â dangos ble mae codi arian yn cael ei wario a sut mae hynny’n helpu’r bwrdd iechyd o ran y gofal y mae’n ei ddarparu."

I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon i wefan Elusen Iechyd Bae Abertawe.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.