Neidio i'r prif gynnwy

Claf yn ddiolch nyrsys anadlol

Sandra and Kirsty

Mae claf â methiant anadlol o Fae Abertawe wedi diolch i dîm o nyrsys, y mae hi wedi'u cymharu ag angylion, am ei chadw'n fyw.

Mae Sandra Frohwein yn un o lawer sydd wedi elwa o fenter newydd - sy'n gweld cleifion sydd â methiant anadlol yn derbyn cymorth anadalu anfewnwthiol gartref yn hytrach na chael eu derbyn i'r ysbyty - ers iddo gael ei sefydlu yn ystod y pandemig.

Nawr mae'r fenyw, 75 oed, yn gobeithio y gall y tîm ei helpu i gyrraedd ei 80au er mwyn iddi allu gweld ei ŵyres yn mynd i'w phrom ysgol.

Mae Sandra, sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), wedi bod ar sawl ymweliad ag Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys dros y blynyddoedd gan arwain at arhosiadau yn yr ysbyty ond y dyddiau hyn mae’n cael ei thrin gartref gan dîm y CNS.

Dywedodd: “Rwyf wedi cael fy rhuthro i’r ysbyty deirgwaith dros y saith mlynedd diwethaf, ac wedi diweddu lan yn ngofal dwys gan fy mod yn byw gyda COPD.

 “Y tro diwethaf, dywedodd y parafeddyg wrth fy ngŵr nad oedd yn meddwl fy mod i’n mynd i oroesi.

“Pan dwi'n deffro yn y bore dwi'n dweud 'Diolch byth. Diwrnod arall.'"

“Rwy’n 76 eleni ac os caf fynd i 81, a gweld fy ŵyres, Caitlyn, yn gadael yr ysgol ac yn mynd i’w phrom, byddaf yn hapus.”

Mae Sandra wedi cael peiriant cymorth anadlu anfewnwthiol i helpu i reoleiddio faint o garbon deuocsid gwenwynig sydd yn ei gwaed ac ailgyflenwi ei lefelau ocsigen.

Mae'r peiriant yn gweithio gyda'r nos ac mae hi'n cysgu gyda mwgwd wyneb ymlaen.

Mae hi hefyd yn cael ymweliadau rheolaidd gan aelodau o dîm CNS a mae’r cymorth dim ond galwad ffôn i ffwrdd.

Wrth ganmol y tîm, dywedodd: “Mae’r tîm hwn yn golygu popeth. Byddwn i ddim yma heddiw hebddyn nhw.

“Os oes gen i broblem dim ond codi'r ffôn sy'n rhaid i mi ei wneud. Ac maen nhw'n ateb yn syth. Os ydyn nhw'n brysur dwi'n gadael neges ac maen nhw'n ffonio'n syth yn ôl. Does dim rhaid i mi aros am ddiwrnod neu ddau.

“Cyn i’r tîm hwn gael ei sefydlu byddwn yn ffonio ambiwlans ac ar fy ffordd i’r ysbyty.

“Maen nhw’n anhygoel. Heb y tîm, credaf y byddai cymaint o bobl wedi marw erbyn hyn. Rwy'n gwybod y byddwn i wedi ac ni allaf ddiolch digon iddynt. Maen nhw fel angylion.

“Maen nhw mor cynorthwyol ac mor garedig. Gallwch chi ddibynnu arnyn nhw.”

Sefydlwyd y tîm cymunedol ar anterth y pandemig pan ddaeth yn angenrheidiol i leihau pwysau ysbytai a lleihau'r risg o Covid yn lledaenu i gleifion.

Dywedodd arbenigwr nyrsio anadlol, Kirsty Eastwood: “Roedd yn rhaid i ni ddarganfod model gofal gwahanol ar gyfer y cleifion hyn. Gwnaethom ddyfeisio menter lle roeddem yn gallu cychwyn y therapi hwn yn ddiogel yng nghartref y claf gan ddefnyddio model gofal cychwynnol cymorth.

“Nid oedd unrhyw ofyniad i ddod i’r ysbyty fel achos dydd a gallai’r cleifion hyn barhau i dderbyn y therapi hanfodol hwn ar adeg pan oedd pethau mor ansicr i’r grŵp hwn o gleifion bregus.”

Mae’r tîm cymorth anadlu anfewnwthiol, sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Singleton, wedi bodoli erioed ond dim ond yn ystod y pandemig y dechreuodd drin cleifion yn eu cartrefi.

Dywedodd Kirsty: “Ni chafodd ei wneud gartref erioed ac ni chafodd y rhwydwaith cymorth erioed. Nid oedd yn fodel cymunedol ond oherwydd y pandemig roeddem yn meddwl, 'ni allwn ddechrau pobl yn yr ysbyty gyda hyn.' Rhif un, does dim gwelyau. Rhif dau, credwyd ei fod yn beryglus oherwydd ei fod yn cynhyrchu aerosol a byddai'n lledaenu Covid yn gyflymach.

“Roedd yn fwy diogel ac yn haws ei wneud gartref. A dyna beth rydyn ni wedi'i wneud.”

Dywedodd Kirsty fod roedd clywed canmoliaeth o'r fath yn gwneud y swydd yn gwerthfawr.

Meddai: “Fel tîm anadlol bach, rydyn ni bob amser yn ymdrechu i wneud y gorau i'n cleifion. Mae clywed hyn gan Sandra yn golygu'r byd i ni ac rydym yn teimlo mor ffodus i allu helpu pobl yn y ffordd yr ydym yn ei wneud.

“Mae gwybod fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cleifion yn dilysu’n llwyr pam fy mod i yn y proffesiwn hwn a pham rydw i’n caru bod yn nyrs.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.