Neidio i'r prif gynnwy

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2019

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS

(CYMRU) 2019

Hysbysiad yn unol ag Adran 24 (3) o'r Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gwyn ac wedi canfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau ei ymchwiliad. 

Roedd y gwyn yn ymwneud â'r gofal a ddarperir i glaf canser a dderbyniodd ofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.  Canfu'r Ombwdsmon fod methiannau cyfathrebu o ran esbonio’r diagnosis, y prognosis a chanlyniadau tebygol i'r claf ac o ran darparu cymorth seicogymdeithasol a chymorth deietegol arbenigol cyn, yn ystod ac ar ôl ei lawdriniaeth.  Daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad nad oedd tystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu gofal a chymorth lliniarol digonol a phriodol i’r claf a’i deulu ar ôl ei ryddhau yn dilyn ei lawdriniaeth aflwyddiannus a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymdrin â'r ceisiadau gan deulu'r claf am gyswllt a chymorth yn brydlon.

Hoffai'r Bwrdd Iechyd ymddiheuro'n gyhoeddus am y methiannau a nodwyd ac am y trallod a achosodd hyn i'r claf a'i deulu.  Gwnaed nifer o argymhellion i'r Bwrdd Iechyd gan yr Ombwdsmon, sydd wedi'u derbyn a'u gweithredu'n llawn.

Bydd copi o adroddiad yr Ombwdsmon ar ganlyniadau ei ymchwiliad ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd, sef www.bipba.gig.cymru ac i'w archwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl yn ystod oriau swyddfa arferol ym Mhencadlys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR am gyfnod o 3 wythnos o 22 Ionawr 2021 i unrhyw un sy'n dymuno cymryd copi o'r adroddiad hwn neu gymryd darnau ohono. Ar gais, darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn rhad ac am ddim.

MARK HACKETT

PRIF WEITHREDWR

Ewch i adroddiad llawn yr Ombwdsmon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.