Neidio i'r prif gynnwy

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2019

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS

(CYMRU) 2019

Hysbyslad yn unol ag Adran24 (3) y Ddaddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Yr Ombwdsmon) wedi ymchwilio i gŵyn a chanfod methiant gwasanaeth gan Fwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae wedi anfon adroddiad am ganlyniadau ei ymchwiliad i Fwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd y gŵyn yn ymwneud â materion gofal a ddarparwyd i glaf ag Anableddau Dysgu, a oedd mewn uned breswyl arbenigol a redir gan y Bwrdd lechyd. Daeth yr Ombwdsmon i'r casgliad bod methiant i fonitro'r claf, a'i hatgyfeirio am gyngor arbenigol wrth i staff godi pryderon mewn perthynas â llygad y claf yr oedd yn rhaid ei monitro. Gwnaeth hyn arwain at y clef yn methu â derbyn gofal addas yn unol â'r hanfodion gofal.

Hoffai'r Bwrdd lechyd ymddiheuro yn gyhoeddus am y methiannau a nodwyd ac am y trallod a achoswyd i'r claf a'i theulu. Gwnaethpwyd sawl argymhelliad i'r Bwrdd lechyd gan yr Ombwdsmon, sydd wedi'u derbyn a'u gweithredu yn llawn.

Bydd copi o'r adroddiad o ganlyniadau ymchwiliad yr Ombwdsmon ar gael ar wefan y Bwrdd lechyd https://bipba.gig.cymru/ a bydd ar gael i'r cyhoedd ei archwilio am ddim yn ystod oriau swyddfa arferol ym Mhencadlys Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe, 1 Porthfa Talbot, Port Talbot, SA12 7BR am gyfnod o 3 wythnos o 1 Hydref 2020 a chaiff unrhyw un sy'n dymuno gwneud hynny gymryd copi o'r adroddiad hwn neu nodi dyfyniadau ohono. Ar gais, bydd llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn cael eu gwneud am ddim.

TRACY MYHILL

YR ATHRO TRACY MYHILL

PRIF WEITHREDWR

Ewch i adroddiad llawn yr Ombwdsmon.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.