Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynnydd sylweddol mewn Covid a ffliw yn arwain at blediad meddwl ddwywaith

Gofynnir i bobl sy'n byw ym Mae Abertawe feddwl ddwywaith cyn ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydynt yn teimlo dan y tywydd eu hunain.

Mae hyn yn dilyn naid sylweddol mewn achosion - dros 170 ers 22 Rhagfyr - o ffliw, Covid, a sawl haint anadlol firaol arall, bob dydd ar ein safleoedd dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf gan arwain at bwysau aruthrol ar staff a gwasanaethau.

Dywedodd Jennifer Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mae Abertawe: “Mae ein tîm rheoli heintiau yn adrodd am gyfraddau uwch parhaus o ystod o heintiau anadlol gan gynnwys y ffliw a Covid ymhlith eraill, ynghyd â dolur rhydd a chwydu, sy’n effeithio ar gleifion yn ein hysbytai.

“Os ydych yn bwriadu ymweld â ffrindiau neu berthnasau yn ein hysbytai a’ch bod yn teimlo’n sâl mewn unrhyw ffordd, neu’n gofalu am unrhyw un sy’n sâl, arhoswch gartref ac ymwelwch â nhw pan fyddwch yn teimlo’n well.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw hi i ymweld â pherthynas neu ffrind agos sydd yn yr ysbyty, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn ond rydyn ni’n gofyn os oes gennych chi unrhyw symptomau anadlol neu os ydych chi’n teimlo dan y tywydd, hyd yn oed os nad ydych chi’n profi’n bositif am Covid, i ohirio eich ymweliad hyd nes y byddwch yn teimlo'n well. Bydd hyn yn helpu i gyfyngu ar ymlediad ac amddiffyn ein cleifion a'n staff.

“Os ydych chi'n dod, a'ch bod chi'n iach, cofiwch olchi'ch dwylo, defnyddio'r gel llaw a gwisgo mwgwd.”

Ychwanegodd Jennifer nad oedd yn rhy hwyr i gael brechiad Covid i helpu i leihau ei ledaeniad.

Meddai: “Mae brechiadau yn ffordd bwysig o amddiffyn rhag salwch difrifol gan gynnwys ffliw a heintiau Covid. Nid yw'n rhy hwyr i gael eich un chi. Ewch i dudalen brechiadau atgyfnerthu a ffliw Covid ar ein gwefan.”

Gydag adran achosion brys Ysbyty Treforys yn arbennig o brysur ar hyn o bryd mae pobl yn cael eu hatgoffa i fynychu dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol.

Os ydych yn sâl ewch i wefan 111 Cymru yn gyntaf i wirio symptomau a chael cyngor ar y camau nesaf www.111.wales.nhs.uk

Neu ewch i'ch fferyllfa leol i gael cyngor a meddyginiaethau ar gyfer llawer o gyflyrau a salwch cyffredin.

Os oes gennych chi neu blentyn dros flwydd oed fân anaf fel toriad neu fân losgi, ysigiadau neu esgyrn wedi torri, mae ein Huned Mân Anafiadau (Minor Injuries Unit) ar agor rhwng 7.30am a 11.00pm, saith diwrnod yr wythnos, yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Ffordd Baglan, Port Talbot, SA12 7BX.

Cofiwch, ni all yr UMA drin salwch neu anafiadau difrifol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.