Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot bwndeli babanod i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'r rhai bach

Mae babi wedi

Bydd cynllun bwndeli babanod newydd a fydd yn gweld rhieni babanod newydd-anedig yn cael cynnig pecyn o ddillad ac anrhegion eraill i helpu i gefnogi eu teulu yn cael eu treialu ym Mae Abertawe.

Bydd y bwndeli yn cynnwys ystod o eitemau ar gyfer rhiant a phlentyn ac yn cael eu rhoi i rieni y flwyddyn nesaf.

Bydd pob un yn cynnwys dillad babanod niwtral o ansawdd uchel mewn gwahanol feintiau, ynghyd ag eitemau ar gyfer chwarae, a chynhyrchion i gefnogi bondio a chyfathrebu cynnar rhwng rhieni a phlant.

Bydd teuluoedd hefyd yn cael eitemau cartref i gefnogi ymolchi diogel, cynhyrchion i helpu menywod ar ôl genedigaeth, a mwy.

Yn ogystal â lleihau'r straen ariannol a ddaw yn sgil cael babi newydd, bydd y bwndeli yn cynnwys gwybodaeth i rieni newydd ar bynciau fel bwydo ar y fron, cysgu'n ddiogel ac ymlyniad.

Dywedodd Susan Jose, Pennaeth Bydwreigiaeth y bwrdd iechyd Dros Dro: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael ein dewis fel y peilot ar gyfer y bwndeli babanod a noddir gan Lywodraeth Cymru.

“Bydd pob bwndel yn cynnwys eitemau hanfodol a gwybodaeth iechyd, i gefnogi teuluoedd yn ystod misoedd cyntaf bywyd gyda’u babi newydd.

“Mae'r tîm mamolaeth wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cynnal arolygon a holiaduron i helpu i sicrhau llwyddiant y peilot.

“Rydyn ni’n disgwyl y bydd hyd at 200 o fwndeli babanod yn cael eu darparu yn ystod y cyfnod peilot pan fydd yn dechrau yn gynnar yn 2020 - er na fydd unrhyw rwymedigaeth ar rieni i gymryd un.”

Mae tystiolaeth gynyddol y gall dechrau bywyd plentyn gael effaith hirhoedlog ar ei ddatblygiad corfforol, gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol.

Cynigiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y prosiect bwndeli babanod yn gyntaf, ac mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Ychwanegodd Mrs Jose: “Rydym yn awyddus i lwyddiant y cynllun er budd pob teulu yng Nghymru.”
 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.