Neidio i'r prif gynnwy

Cymuned Bae Abertawe yn codi £200,000 i drawsnewid gofal canser yn Ysbyty Singleton

Mae cymuned Bae Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir anhygoel, gan godi £200,000 ar gyfer Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser Elusen Iechyd Bae Abertawe. Bydd hyn yn helpu i drawsnewid gofal canser ar gyfer miloedd o gleifion ar draws de-orllewin Cymru bob blwyddyn.

Cyrhaeddwyd y garreg filltir yn dilyn llwyddiant Touched by Cancer, twrnamaint rygbi menywod a gynhaliwyd ddydd Sadwrn yr 8fed o Awst, a gododd swm anhygoel o £54,000 ar gyfer yr apêl - gan fynd â'r apêl codi arian y tu hwnt i'r targed uchelgeisiol o £200,000.

Wedi'i lansio ym mis Medi 2024, nod yr Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser oedd trawsnewid yr hen uned cemotherapi yng Nghanolfan Canser De-orllewin Cymru, Ysbyty Singleton, yn adran cleifion allanol fodern, gan greu amgylchedd cynhesach a mwy croesawgar i gleifion wrth ddod â gwasanaethau canser allweddol ynghyd mewn un lleoliad.

Bydd y prosiect yn gwella mynediad at ymgynghorwyr, nyrsys arbenigol, fferyllwyr a thimau therapi, gan greu profiad mwy cyfforddus, sy'n canolbwyntio ar y claf, ar gyfer y miloedd o bobl sy'n derbyn triniaeth canser yn y ganolfan bob blwyddyn o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Clinigol yng Nghanolfan Ganser De-orllewin Cymru, Russell Banner: "Bydd y gwelliannau hyn yn creu lle mwy croesawgar a chefnogol ar gyfer cleifion a'u teuluoedd, gan ddod â gwasanaethau'n agosach at ei gilydd a'n helpu i ddarparu gofal mwy cydlynol sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae'r apêl hon yn fuddsoddiad ym mhrofiad a lles cleifion sy'n derbyn triniaeth canser ledled De-orllewin Cymru ac rwyf mor ddiolchgar am yr holl amser ac ymdrech y mae'r gymuned wedi'i rhoi i godi'r arian hwn."

Mae'r apêl wedi cael ei gyrru gan gannoedd o godwyr arian, rhoddwyr, busnesau lleol, ysgolion, grwpiau cymunedol, staff y GIG a gwirfoddolwyr sydd wedi trefnu popeth o farathonau a dringo mynyddoedd i werthu cacennau, diwrnodau golff, digwyddiadau elusennol a heriau noddedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Daeth yr ymdrech olaf drwy Touched by Cancer, lle ymunodd timau rygbi cyffwrdd menywod o bob cwr o Dde Cymru i godi swm anhygoel o £54,000, gan sicrhau bod yr apêl yn croesi'r llinell derfyn. At ei gilydd, mae'r twrnamaint wedi codi £78,000 ar gyfer Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser, gan gyfrannu mwy na thraean (39%) at gyfanswm yr apêl o £200,000. Mae hyn wedi'i gyflawni'n bennaf drwy straeon emosiynol codwyr arian a'u cysylltiadau â'r ganolfan ganser.

Dywedodd Cathy Stevens, Swyddog Elusen Cymorth Cymunedol yn Elusen Iechyd Bae Abertawe: "Mae hyn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fo cymuned Bae Abertawe yn dod ynghyd. Mae Canolfan Canser De-orllewin Cymru yn gwneud gwaith anhygoel gan ofalu am filoedd o gleifion y flwyddyn. Bydd yr Apêl Mynd y Filltir Ychwanegol ar gyfer Canser yn ychwanegu at hyn drwy fynd y tu hwnt i gyllid craidd y GIG - gan adnewyddu'r gofod i fod yn fwy croesawgar ac yn llai clinigol. Mae cyflawni ein nodau codi arian yn ein galluogi i ddechrau ar y gwaith adnewyddu, gan gael effaith barhaol ar gleifion canser a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod.”

Ymhlith y rhai a gafodd eu hysbrydoli i gefnogi'r apêl mae Rachel Cole, a gwblhaodd Hanner Marathon Abertawe er cof am ei mam, Sandra, a gafodd driniaeth yng Nghanolfan Canser De-orllewin Cymru. Mae Rachel yn falch i awn o glywed fod y targed wedi'i gyflawni a'i bod wedi cyfrannu at gyrraedd y nod hwn: “Gall cael cyfleusterau gwell ac amgylchedd cyfforddus a chroesawgar wneud gwahaniaeth mawr i unigolion sy’n mynd trwy gyfnod mor anodd yn eu bywydau gan ei fod yn brofiad mor llethol yn emosiynol.”

Bydd y buddsoddiad o £200,000 yn helpu i greu adran cleifion allanol fwy croesawgar, ailagor bar te dan arweiniad gwirfoddolwyr, a gwella profiad cleifion canser a'u hanwyliaid am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae pob person a roddodd arian, a gododd arian, a wirfoddolodd, a noddodd ddigwyddiad neu a rannodd yr apêl wedi helpu i wneud y trawsnewidiad hwn yn bosibl – gan brofi beth all gael ei gyflawni pan fydd cymuned yn mynd gam ymhellach gyda'i gilydd.

Ynglŷn ag Elusen Iechyd Bae Abertawe

Elusen Iechyd Bae Abertawe yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n rheoli cronfeydd elusennol amrywiol sy'n cefnogi ystod eang o adrannau a gwasanaethau. Mae rhoddion yn mynd y tu hwnt i gyllid craidd y GIG i gefnogi ymchwil arloesol, offer uwch-dechnoleg, gwell cyfleusterau, lles cleifion a theuluoedd, a datblygu staff. Mae'r mentrau hyn yn gwella ansawdd gofal a chanlyniadau i gleifion yn uniongyrchol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.