Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd Digwyddiad Parhad Busnes yn Ysbyty Treforys oherwydd pwysau aruthrol

Delwedd mewn perthynas â chyhoeddiad pwysig.

Cyhoeddwyd Digwyddiad Parhad Busnes yn Ysbyty Treforys heddiw oherwydd pwysau aruthrol ymhlith ein gwasanaethau brys a'n gwasanaethau gofal heb ei gynllunio.

Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caiff Digwyddiadau Parhad Busnes eu sbarduno, ac arweiniodd nifer eithriadol o uchel o gleifion brys difrifol wael yn aros am welyau at gyhoeddi'r Digwyddiad Parhad Busnes - mwy na 80 ar hyn o bryd.

Dywedodd Dr Mark Ramsey, Cyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Treforys, fod popeth yn cael ei wneud i ryddhau cleifion nad oes angen gofal meddygol acíwt arnynt mwyach fel y gallai'r cleifion sâl iawn gael gwelyau.

Rydym yn disgwyl i'r ysbyty fod yn eithriadol o brysur dros y dyddiau nesaf oherwydd y gostyngiad mewn tymheredd o ganlyniad i'r tymor a all achosi mwy o salwch.

Oherwydd y pwysau aruthrol ar ofal brys a gofal heb ei gynllunio, gofynnir i'r cyhoedd beidio â dod i'r Adran Achosion Brys oni bai eu bod yn sâl iawn neu wedi'u hanafu'n ddifrifol.

Dewch i'r adran dim ond os ydych yn profi'r canlynol:

  • Anawsterau anadlu difrifol
  • Poen neu waedu difrifol
  • Poen yn y frest neu strôc bosibl
  • Anafiadau trawma difrifol

Os oes gennych chi salwch neu anaf llai difrifol, ystyriwch y ffyrdd eraill o gael y gofal sydd ei angen arnoch.

Ar gyfer mân anafiadau, ewch i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Ewch yma am fwy o wybodaeth am yr Uned Mân Anafiadau a'r amrywiaeth o anafiadau y gellir eu trin yno. Noder NA ALL yr Uned Mân Anafiadau drin anafiadau neu salwch difrifol.

Gallwch chi hefyd fynd yma i droi at wiriwr symptomau ar-lein 111 GIG Cymru am gyngor. Hefyd gallwch ffonio 111 GIG Cymru am gyngor, ond gall y llinellau ffôn fod yn brysur, felly os yw hi'n bosibl ewch i'r wefan uchod fel man cychwyn cyn ffonio.

Gall eich fferyllfa leol gynnig triniaethau dros y cownter AM DDIM ar gyfer ystod eang o salwch cyffredin, unwaith i chi gofrestru. Gall y fferyllfa gynnig nifer gyfyngedig o feddyginiaethau presgripsiwn heb fod angen i chi fynd at eich meddyg teulu. Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am sut gall eich fferyllydd helpu.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch, gallwch ffonio 111 a dewis Opsiwn 2 i siarad â thîm o ymarferwyr iechyd meddwl.

Dywedodd Dr Ramsey: "Gall teuluoedd ac anwyliaid chwarae rôl allweddol wrth ein cefnogi ni os gallan nhw fynd â'u perthnasau gartref cyn gynted â phosibl, neu os gallan nhw helpu gyda'r cymorth ychwanegol sydd ei angen nes bod pecyn gofal yn ei le.

"Mae hefyd er lles gorau cleifion i adael yr ysbyty ar amser, oherwydd gallan nhw gael eu niweidio gan arhosiad hir yn yr ysbyty a achosir gan anweithgarwch a’r risg o ddod i gysylltiad â heintiau. Mae mynd gartref cyn gynted â phosibl yn well i'w hadfer a'u lles cyffredinol, ac mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau bod gartref." 

Mae tua 300 o gleifion yn ysbytai Bae Abertawe sydd wedi cwblhau eu triniaeth feddygol ond sy’n dal yn eu gwelyau, oherwydd bos llawer ohonynt yn aros am gymorth ychwanegol neu becyn gofal i gael ei roi yn ei le cyn iddynt adael.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi rhyddhau cleifion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.