Neidio i'r prif gynnwy

Cerddorion yn cyfnewid neuadd gyngerdd am wardiau ysbyty

Cynhaliodd cerddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (NOW) gyfres o gyngherddau bach am ddim ar wardiau yn Ysbyty Singleton Abertawe.

Daeth y feiolinydd Nick Whiting, y chwaraewr clarinét Lenny Sayers, Neil Shewan ar y corn Ffrengig a’r sielyddes o Ffrainc, Jess Feaver â gwên i ddwsinau o wynebau gyda cherddoriaeth glasurol a phoblogaidd gan gynnwys ‘Let It Be’ gan The Beatles.

Roedd yr ymweliadau yn rhan o raglen ehangach Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe lle mae cerddoriaeth yn cael ei defnyddio i hybu iechyd a lles cleifion a staff.

Mae perfformiadau hefyd wedi'u llwyfannu yn ysbytai Tonna, Cefn Coed a Chastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd yr hwylusydd cerddoriaeth mewn iechyd, Iori Haugen, fod effeithiau buddiol cerddoriaeth wedi'u profi'n wyddonol.

“Mae gwrando neu gymryd rhan mewn cerddoriaeth yn gostwng lefelau cortisol, a elwir yn hormon straen, yn eich corff, felly rydych chi'n naturiol yn teimlo'n ysgafnach ac yn hapusach,” meddai.

“Mae cael y cerddorion yno yn dod â phobl at ei gilydd, yn eu cael i dapio bysedd eu traed ac yn gwneud iddyn nhw wenu.

“Mae’n rhywbeth i ganolbwyntio arno a hyd yn oed os mai dim ond am gyfnod byr y byddan nhw yno, rydyn ni wedi gweld bod y buddion yn para gan y bydd cleifion a staff yn parhau i siarad am y peth am beth amser wedyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran BBC NOW: “Roeddem wrth ein bodd yn gweithio gyda staff Ysbyty Singleton i ddod â cherddoriaeth i’r coridorau a’r wardiau.

“Rydyn ni’n gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o nifer o ymweliadau.”

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.