Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth i dîm awdioleg pediatrig Bae Abertawe

Team audiology

Rhaid bod cael gwybod bod eich babi yn fyddar yn dorcalonnus ond mae Tara Thomas yn llawn canmoliaeth am y ffordd y mae tîm awdioleg Bae Abertawe wedi helpu ei merch i addasu.

Mae'r tîm newydd dderbyn adroddiad archwilio ansawdd disglair, ac mae'r gofal a ddarperir i ferch Tara, Elena, yn helpu i ddangos ansawdd eu gofal.

(Uchod: aelodau’r tîm Sally Mora a Tom Ellis)
Yn yr un modd â phob babi newydd, cafodd Elena ei sgrinio am golled clyw yn fuan ar ôl cael ei geni yn Ysbyty Singleton yn 2018. Yn anffodus, roedd canlyniadau’r sgrinio’n peri pryder a chafodd tîm awdioleg pediatrig y bwrdd iechyd wybod.

Dywedodd Tara, sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd ei hun: “I ddechrau dywedon nhw y gallai fod oherwydd bod ei chlustiau’n dal i fod ychydig yn orlawn ar ôl esgor, felly fe wnaethon nhw roi ail brawf iddi drannoeth, a methodd hynny hefyd.

“Dywedwyd wrthym wedyn ei bod yn fyddar yn y ddwy glust. Y term cywir yw colli clyw synhwyraidd, sy’n golled barhaol, un nad yw’n gwella ond a all waethygu.”

Ar ôl canfod y broblem, aeth y tîm ati’n gyflym i gefnogi’r teulu.

Dywedodd Tara: “Roedd hi’n bythefnos oed pan ddaethon ni i wybod ac roedd ganddi ei chymhorthion clyw cyntaf ar ôl pedair wythnos. Aethon ni i'r clinig yn Sway Road, Treforys, i'w gosod nhw. Fe wnaethon nhw ddangos i ni sut i'w rhoi nhw i mewn a sut i'w defnyddio, esboniwyd yr holl ffordd, roedden nhw jyst yn wych gydag Elena.

“Roedd y tîm cyfan yn anhygoel, maen nhw’n wych. Fe wnaethon nhw esbonio popeth roedd angen i ni ei wybod. Pan fyddwch chi'n darganfod am y tro cyntaf bod eich plentyn yn fyddar, mae'n sioc enfawr. Mae’n eithaf anodd cymryd popeth i mewn.”

Elena

Y newyddion da yw bod Elena ( uchod ) wedi cymryd y cyfan yn ei blaen.

“Mae hi'n gwneud yn wych,” meddai Tara. “ Dechreuodd yr ysgol yn rhan amser ac mae ei haraith yn wych. Cafodd ei rhyddhau o leferydd ac iaith ar ôl ei hapwyntiad cyntaf.

“Mae hi'n wisgwr cymhorthion clyw da iawn. Mae wedi bod yn eithaf dwys iddi. Oherwydd fy swydd dwi’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw ac wedi bod ar ben hynny o’r dechrau.”

Canfu archwiliad ansawdd diweddar o’r gwasanaeth, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), fod y bwrdd iechyd wedi cyrraedd y targedau cydymffurfio yn gyffredinol ac ar gyfer pob un o’r safonau unigol a dargedwyd.

Mae pob babi sy'n cael ei eni yng Nghymru yn cael cynnig sgrinio clyw newydd-anedig, gan raglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru ICC, yn fuan ar ôl genedigaeth i weld a oes ganddo golled clyw a allai effeithio ar ei ddatblygiad lleferydd ac iaith heb gymorth cynnar.

Os canfyddir unrhyw broblem bosibl, mae’r bwrdd iechyd lleol yn camu i mewn i gynnig cymorth.

Dywedodd Sarah Theobald, pennaeth awdioleg ym Mae Abertawe: “Mae plant nad ydynt yn llwyddo yn y sgrinio, neu nad ydynt yn gymwys am ryw reswm, yn cael eu hatgyfeirio atom am asesiad clyw.

“Rydyn ni fel arfer yn gweld babanod o un diwrnod oed i dri mis. Mae'n golygu profi clyw, a all fod yn brawf diagnostig eithaf hir sy'n cymryd hyd at ddwy awr, weithiau, tair awr. Mae'n cael ei wneud tra bod y babi'n cysgu.

“Yr hyn yr ydym yn edrych amdano yw unrhyw golled clyw sylweddol dwyochrog parhaol. Gall colli clyw effeithio ar leferydd ac iaith plentyn, a datblygiad cymdeithasol wrth iddynt dyfu.

“Rydym hefyd yn sylwi ar golledion clyw dros dro a cholled clyw mewn un glust, a byddwn yn darparu cyngor neu’n rheoli’r rhain fel y bo’n briodol hefyd.”

Diolch byth, dim ond canran fach o fabanod sy'n cael eu geni â nam ar eu clyw ond i'r rhai sydd wedi colli eu clyw, gall y tîm helpu.

Dywedodd Sarah: “Bydd mwyafrif y plant sy’n dod atom ar ôl sgrin yn pasio eu hasesiad. Dim ond canran fach iawn - ar gyfartaledd, pedwar o blant y flwyddyn - a fydd yn cael eu nodi â cholled clyw sylweddol dwyochrog parhaol.

“Bydd mwy yn cael colled clyw dros dro neu golledion ysgafnach neu golled clyw mewn un glust, sy'n dal i fod angen rheolaeth a chyngor ond na fydd o reidrwydd yn cael effaith gydol oes neu effaith mor sylweddol.

“Ar gyfer plant sydd â cholled clyw sylweddol dwyochrog parhaol, byddwn fel arfer yn cynnig cymhorthion clyw yn y lle cyntaf, sy’n gwella mynediad i’r synau nad ydynt yn eu clywed ac yn eu helpu i ddatblygu eu lleferydd a’u hiaith, gyda chymorth.

“I rai plant, efallai y bydd cyfeiriad ar gyfer mewnblaniad cochlear yn cael ei drafod os yw eu colled clyw yn ddifrifol ac nad yw cymhorthion clyw o fudd iddynt.

“Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag athrawon plant byddar a phaediatregwyr cymunedol, a fydd yn ymchwilio i achos y golled clyw. Rydym yn gweithio fel tîm aml-asiantaeth i sicrhau bod gennym gynllun mewn lle gyda’r rhieni i wneud y gorau dros y plant hyn.

“Roedd yr archwiliad hefyd yn edrych ar y model ehangach hwn o sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd.”

O’r pandemig a chamu i’r adwy i gynnal y sgrinio, yn ogystal â’r asesiadau, dywedodd Sarah: “Cafodd nifer fawr o’r tîm awdioleg eu defnyddio i gefnogi’r ymateb i’r pandemig ond parhaodd y tîm pediatrig a arhosodd mewn awdioleg i asesu’r babanod a atgyfeiriwyd atom ond hefyd yn cynnal sgrinio ar gyfer y babanod nad oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gallu eu gweld yn ystod y cyfnod hwn oherwydd newidiadau ar y wardiau mamolaeth ac anawsterau eraill.


“Fe wnaethon ni hefyd hyfforddi sgrinwyr newydd. Fe wnaethom geisio bod yn hyblyg wrth ddefnyddio lleoliadau cymunedol lle bynnag y bo modd.

“Wrth gwrs, bu’n rhaid i ni fabwysiadu’r gweithdrefnau PPE a rheoli heintiau llymach a gweithio gyda theuluoedd i roi sicrwydd iddynt y gallent ddod â’u babanod yn ddiogel i’n gweld yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.” Roedd hyn i gyd yn golygu bod pob babi yn parhau i gael cynnig sgrin ac unrhyw asesiad gofynnol trwy gydol y pandemig.”

Gan ganmol ei staff, dywedodd: “Rwy’n falch iawn o’r tîm. Ac rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gynnal y gwasanaeth trwy gydol y pandemig.

“Mae'r adroddiad archwilio yn golygu ein bod yn darparu'r gwasanaeth i'r ansawdd a ddisgwylir gennym. A gall teuluoedd fod yn sicr y bydd plant sy’n cael eu cyfeirio atom i gael eu hasesu yn cael eu gweld a’u rheoli mewn modd amserol, gyda’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Bae Abertawe, Mark Hackett: “Hoffwn longyfarch pawb yn ein hadran awdioleg a gyfrannodd at adroddiad archwilio mor wych.

“Yn benodol, mae’n braf gweld sut mae’r tîm gwych hwn wedi dangos yr egni, y proffesiynoldeb a’r ymrwymiad i gleifion – fel y mae cymaint o’n staff dros y ddwy flynedd ddiwethaf – wrth addasu i’r heriau a godwyd gan y pandemig.

“Dylem i gyd fod yn falch o’u cyflawniad.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.