Neidio i'r prif gynnwy

Bydd theatr lawdriniaeth newydd yn Ysbyty Singleton yn taclo amseroedd aros am lawdriniaethau llygaid

Mae

Mae buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd wedi'i gyhoeddi yn Ysbyty Singleton Abertawe i fynd i taclo arosiadau hir am lawdriniaeth llygaid.

Disgwylir i theatr llawdriniaethau newydd ar gyfer triniaethau offthalmoleg agor yn ystod haf eleni – gan ganiatáu i’r bwrdd iechyd gynnal tua 200 o lawdriniaethau ychwanegol y mis.

Y gobaith yw y bydd y ffigwr yn cynyddu dros amser, gyda'r posibilrwydd o gyflwyno sesiynau penwythnos a noswaith.

Bydd y theatr fodwlar newydd ynghlwm wrth yr Uned Llawdriniaeth Ddydd ar ochr arall Lôn Sgeti o brif safle Singleton.

Mae'n costio £3.3 miliwn, gyda buddsoddiad pellach o £700,000 am offer newydd. Mae staff ychwanegol hefyd yn cael eu recriwtio.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cychwyn ar raglen uchelgeisiol o’r enw Newid ar gyfer y Dyfodol , a fydd yn gweld gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd newydd a mwy effeithlon.

Mae rhan o'r rhaglen yn cynnwys creu cyfres o ganolfannau rhagoriaeth ym mhrif ysbytai'r bwrdd iechyd.

Bydd Singleton yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer nifer o arbenigeddau, gan gynnwys offthalmoleg, sydd eisoes wedi'i lleoli yno.

Mae Fel llawer o rannau eraill o Gymru, roedd gan Fae Abertawe amseroedd aros hir am offthalmoleg cyn Covid. Ond mae'r pandemig wedi eu gwaethygu'n sylweddol - a dyna pam yr angen i weithredu.

Dywedodd Jan Worthing ( chwith ), Cyfarwyddwr Ysbyty Singleton: “Cafodd y gostyngiad yng nghapasiti theatrau o ganlyniad i Covid effaith ddifrifol ar bob arbenigedd llawfeddygol, ond yn enwedig offthalmoleg oherwydd y niferoedd uchel o gleifion yr effeithiwyd arnynt.

“Erbyn hyn mae gennym ni tua 2,500 yn aros am lawdriniaeth llygaid. Mae tua 1,700 o'r rhain wedi aros yn hirach na'r targed o 36 wythnos

“Yn ogystal, mae tua 2,100 o gleifion cataract yn aros mwy na 26 wythnos i gael eu gweld fel claf allanol, ac mae tua 80 y cant o’r rhain yn debygol o fod angen llawdriniaeth.”

Dywedodd Mrs Worthing fod y bwrdd iechyd wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian adfer i gefnogi cleifion sy'n cael eu llawdriniaeth yn un o dri ysbyty preifat.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n awyddus i ddatblygu cyfleusterau GIG ychwanegol i leihau’r angen am y gwaith allanol hwn yn y dyfodol,” ychwanegodd.

Mae gwaith tir eisoes wedi dechrau, a disgwylir i'r theatr fodiwlaidd fod ar y safle erbyn diwedd mis Mawrth.

Dywedodd Jo Williams, Rheolwr Adrannol Offthalmoleg, fod staff theatr, nyrsio, meddygol a chymorth ychwanegol yn cael eu recriwtio, a bod disgwyl i'r theatr newydd ddod yn weithredol erbyn dechrau mis Gorffennaf.

“Bydd yn cyflwyno tua 200 o achosion offthalmoleg ychwanegol y mis i ddechrau” ychwanegodd.

“Yn y tymor hirach, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni ddechrau cynnal sesiynau noswaith ac ar y penwythnos i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol am lawdriniaeth offthalmoleg.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.