Neidio i'r prif gynnwy

Blaenoriaethu profion gwaed sydd eu hangen ar frys

Ar hyn o bryd mae prinder rhyngwladol o diwbiau casglu gwaed a ddefnyddir i gymryd rhai samplau gwaed (profion gwaed) yn effeithio ar wasanaethau'r GIG.

Mae pedair gwlad y DU yn rheoli'r mater hwn, gan gynnwys gwaith i ddod o hyd i ddewisiadau amgen addas i'r cynhyrchion yr effeithir arnynt.

Mae gan y GIG brofiad helaeth o ddelio â materion cyflenwad meddygol, ac yng Nghymru mae'r ymateb yn cael ei arwain gan GIG Cymru, gan weithio gyda chenhedloedd eraill a'r llywodraeth.

Mae meddygon a chlinigwyr ledled y DU, sy'n gweithio mewn meddygfeydd, ysbytai, gwasanaethau iechyd cymunedol ac iechyd meddwl ac ymddiriedolaethau ambiwlans, wedi cael eu cynghori i ohirio profion gwaed nad ydynt yn hanfodol, ac adolygu cyfnodau o brofion gwaed, ar yr adeg hon. Mae hyn er mwyn cadw cyflenwadau i bobl sydd angen profion gwaed ar frys.

Mae diogelwch cleifion yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a bydd eich prawf yn cael ei oedi dim ond os yw clinigwr wedi asesu ei bod yn ddiogel yn glinigol i wneud hynny.

Mae clinigwyr yn dilyn arweiniad cenedlaethol, gyda chefnogaeth Grŵp Cyfeirio Clinigol arbenigol y DU.

Dylai pobl sydd angen gofal brys neu heb eu cynllunio barhau i'w geisio yn y ffyrdd arferol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Dirprwy Brif Weithredwr Dr Richard Evans: “Mae clinigwyr a rheolwyr yn ein hysbytai a’n lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol ar draws Abertawe a Castell-nedd Port Talbot yn gweithio’n agos i sicrhau bod y prinder dros dro hwn o diwbiau prawf gwaed yn cael ei reoli’n ddiogel ac yn effeithlon.

“Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch cleifion, ac mae ein ffocws ar effeithlonrwydd felly nid ydym yn gwastraffu tiwbiau prawf gwaed, ac nid ydym yn dyblygu profion. Rydym yn blaenoriaethu profion sy'n cael effaith ar unwaith ar driniaeth neu ddiagnosis, ac yn dilyn arweiniad arbenigol.

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw bryder neu aflonyddwch y gallai hyn ei achosi, ond rydym am bwysleisio bod y mesurau hyn yn cael eu cymryd er budd diogelwch cleifion. Bydd eich clinigwr yn adolygu'ch achos a byddwch yn derbyn prawf os bernir ei fod yn hanfodol yn glinigol.

“Rydyn ni’n diolch i’n cleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr am eu hamynedd ar yr adeg hon.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.