Neidio i'r prif gynnwy

Arwydd twymgalon nyrs yr adran achosion brys i gysuro plant sy'n galaru

ED nurse Natalie Williams has created bereavement boxes for children

Mae nyrs adran achosion brys wedi creu pecynnau gofal twymgalon i blant fel ffordd o’u cysuro yn dilyn colli rhywun annwyl.

Mae Natalie Williams, sydd wedi'i lleoli mewn adran achosion brys Ysbyty Treforys, Abertawe, wedi dylunio'r blychau profedigaeth oed-benodol i'w rhoi i blant sydd wedi profi colled rhiant neu frawd neu chwaer.

Mae yna dair set o flychau; un ar gyfer plant dan saith oed, ac un arall ar gyfer rhai rhwng saith ac 11 oed, ac mae'r ddau yn cynnwys dwy arth tedi, cannwyll drydan, ffrâm ffotograffau a hadau anghofiwch fi.

Bydd plant 12 oed a hŷn yn cael blwch cof yn lle'r eirth dedi, yn ychwanegol at y cynnwys meddylgar arall.

Mae pob blwch hefyd yn cynnwys pecynnau gwybodaeth sy'n briodol i'w hoedran a chefnogaeth gan Child Bereavement UK a'r elusen profedigaeth plentyndod Winston's Wish.

“Yn yr adran achosion brys rydym bob amser yn gweithio’n galed i sicrhau y gallwn ddarparu’r gofal a’r gefnogaeth orau i’n cleifion ar adegau anodd,” meddai Natalie.

“Rydyn ni'n ymfalchïo mewn bod yno pan mae ein hangen fwyaf.

“Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am gymorth profedigaeth ond nid oedd gennym unrhyw beth y gallem rhoi i gefnogi plant am yr hirdymor pan fyddant yn mynd adref.

“Datblygodd y syniad fel, os oes gennym ni unrhyw blant sy'n colli brodyr a chwiorydd neu rhieni yn yr adran, fod gennym ni nawr rwydwaith cymorth y gallwn gynnig rhywbeth iddyn nhw fynd adref â nhw i'w ddarllen, yn ogystal â rhywbeth er cof am eu hanwylyd. ”

ED nurse Natalie Williams has created bereavement boxes for children

Yn y llun: Enghreifftiau o'r blychau profedigaeth ar gyfer y rhai 11 oed ac iau

I ddechrau, talodd Natalie am y blychau profedigaeth ei hun ond ers hynny mae wedi derbyn nawdd gan undeb llafur Unison, gan ei galluogi i ddarparu'r gwasanaeth heb unrhyw gost iddi hi ei hun.

Mae hefyd wedi caniatáu i Natalie gynnig cefnogaeth gwell a dewis ehangach o bethau i'w cynnwys ymhob blwch.

Ychwanegodd hi: “Roedd Unison yn hael iawn i gynnig ariannu’r prosiect i roi fy syniad ar waith. Galluogodd hyn i mi wneud rhywbeth cymaint yn well nag yr oeddwn wedi'i obeithio.

“Ni fyddwn wedi gallu cynnwys y blychau cof na fframiau lluniau ac rwyf wedi llwyddo i gael eirth yn fwy oherwydd eu cefnogaeth.

“Mae'n rhaid i mi ddiolch o galon i Unison. Fe wnaethant weld lle roeddwn i eisiau cymryd fy mhrosiect ond nid oedd yn rhywbeth y byddwn i wedi gallu ariannu fy hun ar gyfer ansawdd a maint y pethau roeddwn i eisiau eu cyflwyno.

“Rydw i mor ddiolchgar i’r adran achosion brys am gefnogi fy syniadau a phrosiectau a bob amser fod mor gefnogol er mwyn datblygu gwasanaeth profedigaeth o safon mor uchel, dan arweiniad Karen Thomas, rwy’n falch o fod yn rhan ohono.

“Mae'n braf ein bod ni fel staff yn gallu cyfrannu a cheisio gwneud gwahaniaeth i bobl gobeithio.”

Er gwaethaf yr holl waith caled sydd wedi mynd i mewn i greu pob blwch profedigaeth, dywedodd Natalie y gobaith yw na fyddai byth yn rhaid eu defnyddio mewn byd delfrydol.

“Ond rwy’n gobeithio, os gwnânt, yna byddant yn darparu cefnogaeth profedigaeth, nid yn unig tra bo’r plant yn yr adran ond yn y tymor hirach hefyd,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y bydd pob blwch yn gwneud gwahaniaeth bach yn yr hyn a allai fod yn un o’r dyddiau gwaethaf ym mywyd plentyn.”

ED nurse Natalie Williams has created bereavement boxes for children

Yn y llun: Y blychau profedigaeth ar gyfer 12 oed a hŷn sy'n cynnwys blwch cof

Dywedodd Lynne Haeney, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gofal Brys a Gweithrediadau Ysbyty: “Fe ddes i wybod bod Natalie wedi bod yn darparu’r gwasanaeth hwn i deuluoedd mewn profedigaeth trwy ei phoced ei hun.

“Felly oherwydd ein cysylltiadau rhagorol gydag Unison, es atynt a gofyn a fyddent yn hapus i'w noddi i barhau â'r gwasanaeth hwn a gwella arno.

“Roedd Unison yn fwy na pharod i gefnogi Natalie gan eu bod yn gallu gweld a deall budd y pecynnau yr oedd Natalie yn eu paratoi.

“Heb eu cefnogaeth, byddai Natalie wedi parhau i gyflenwi'r gwasanaeth hwn ei hun.

“Roedd Unison yn deall na ddylai neb orfod gwneud hyn a chael ei gosbi’n ariannol am geisio cefnogi ein teuluoedd mewn profedigaeth.

“Yn dilyn sgyrsiau gydag Unison, fe wnaethant sicrhau bod arian ar gael i Natalie ar unwaith ac maent wedi egluro y byddant yn hapus i gefnogi hyn yn flynyddol os bydd ei angen.

“Mae hwn yn arwydd rhagorol o werthoedd y bwrdd iechyd ac yn gweithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn yr undeb.”

Ychwanegodd Andrew O'Leary, ysgrifennydd cangen Gofal Iechyd Bae Abertawe Unison: “Yn aml, gelwir ar aelodau Unison i weithio gyda phobl pan fyddant ar eu mwyaf bregus.

“Roedd ein pwyllgor cangen yn hapus iawn i gefnogi’r fenter leol hon, gan geisio rhoi rhywfaint o gysur ychwanegol i blant sy’n dioddef profedigaeth.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.