Neidio i'r prif gynnwy

Cam cyntaf Ymgysylltu â'r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yn dod i ben

4 WAA helicopters

Yn dilyn 14 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae cam cyntaf Adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (GCTMB) - am sut i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru sy'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ymhellach - wedi dod i ben.

Mae ymgysylltiad cyhoeddus Cymru gyfan, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, wedi canolbwyntio ar wrando ar sylwadau, ymholiadau a chasglu adborth ar sut i ddatblygu opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac GCTMB sy'n rhan o GIG Cymru.

Mae Stephen Harrhy, y Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans sydd â'r dasg o arwain yr Adolygiad annibynnol, wedi diolch i'r cyhoedd a rhanddeiliaid am gymryd rhan yng Nghyfnod Un o ymgysylltiad yr Adolygiad ac wedi pwysleisio nad oes penderfyniad eisoes wedi'i wneud yn dilyn y Cynnig Gwasanaeth GCTMB cychwynnol yn 2022.

Dywedodd Mr Harry: "Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y cam cyntaf hwn o Adolygiad Gwasanaeth GCTMB - gwasanaeth sy'n ffagl rhagoriaeth ac sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr, heb os.

"Er bod Cam 1 wedi cymryd mwy o amser na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, mae hwn yn fater cymhleth ac rwyf wedi pwysleisio mai fy mlaenoriaeth yw gwneud hyn yn drylwyr, yn hytrach na chael fy rhwymo gan unrhyw amserlenni mympwyol." 

Fel rhan o'r dull ymgysylltu cyffredinol ledled Cymru, parhaodd y Comisiynydd i gwrdd ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac arweinwyr grwpiau cymunedol drwy gydol y broses, yn ogystal â defnyddio'r llwybrau llywodraethu sefydledig, megis Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid y Byrddau Iechyd.

Aeth Mr Harrhy yn ei flaen: "Rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y ddeialog adeiladol ym mhob sesiwn y cymerodd y cyhoedd ran ynddynt - galw heibio, cyfarfodydd cyhoeddus yn bersonol, a rhith/ar-lein - sydd wedi bod o gymorth mawr i mi ac rwyf wedi gwerthfawrogi'r amser a'r diddordeb a roddwyd gan gyfranogwyr ar y mater hwn.  Mae'r angerdd am y gwasanaeth ambiwlans awyr yn glir ac mae nod cyffredin yma i wneud gwasanaeth gwych, hyd yn oed yn well i'n cymunedau yng Nghymru. 

"Ar ddechrau'r broses hon, ymrwymais i gynnal ymgysylltiad llawn a thryloyw a gobeithiaf fod y cyfranogwyr yn teimlo fy mod wedi anrhydeddu hyn drwy gydol Cam Un.   Rwyf wedi bod yn glir nad oes penderfyniad wedi'i wneud a bod gwrando ar y cyhoedd yn llunio'r ffordd y caiff opsiynau, ar gyfer cyfluniad y gwasanaeth yn y dyfodol, eu datblygu ac rwyf am ailddatgan bod hyn yn parhau i fod yn wir."

Yn dilyn Cam Un, y gwaith i ddatblygu ystod o opsiynau yw'r ffocws i'r Comisiynydd a'i dîm yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, pob un wedi'i lywio gan yr adborth hyd yma yn ogystal â modelu data cyflenwol sydd hefyd ar y gweill.

Unwaith y bydd yr opsiynau yn cael eu datblygu, mae'r Comisiynydd yn bwriadu mynd yn ôl i'r cyhoedd fel Cam Dau i roi sylwadau ar y rhain a fydd yn ei helpu i gyrraedd yr opsiwn a argymhellir ac a ffefrir, a fydd wedyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) i'w benderfynu. 

Disgwylir i Ail gam ymgysylltu â'r cyhoedd ddechrau yn yr hydref gyda dyddiadau a manylion lleoliad wedi'u cadarnhau yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen.

Ychwanegodd Mr Harrhy "Byddwn yn anfon diweddariadau i'n rhanddeiliaid, yn ogystal â chyhoeddi'r holl ddiweddariadau ar wefan PGAB fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol yr ymgysylltiad cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau trefniadau ar waith."

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.