Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Annibynnol Mamolaeth a Newyddenedigol Bae Abertawe - Diweddariad gan Gadeirydd y Panel Goruchwylio, Margaret Bowron KC

Mae wedi bod yn nifer o wythnosau ers cyhoeddi fy mhenodiad fel Cadeirydd y Panel Goruchwylio ac felly hoffwn rannu diweddariad ar y cynydd sydd wedi ei gwneud yn yr amser hynny a'r camau nesaf.

Er fy mod wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau bod yr Adolygiad yn dechrau cyn gynted â phosibl, mae nifer o gamau allweddol y mae angen eu cymryd cyn hyn er mwyn sicrhau y gall yr Adolygiad fynd yn ei flaen yn y fath fodd fel ei fod yn ystyrlon i deuluoedd ac yn mynd i'r afael â'r pryderon y maent wedi'u codi.

Mae O ran cynnydd, mae'r broses o benodi gweddill aelodau'r Panel Goruchwylio bron yn gyflawn ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi enwau'r rhai yr wyf wedi'u penodi yn fuan.

Rwyf wedi cynnal proses gyfweld gadarn gydag unigolion sy'n cael eu cydnabod fel arbenigwyr yn eu meysydd. Gallaf gadarnhau bod yr ymgeiswyr wedi cael eu dewis gennyf ac rwyf i i gyd wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad blaenorol â'r Bwrdd Iechyd.

Mae'r cwmpas yn elfen graidd o'r Adolygiad ac mae'n hollbwysig ein bod yn cael hyn yn iawn. Rwyf wedi myfyrio ar y safbwyntiau a fynegwyd i mi gan arbenigwyr yn yr ardaloedd mamolaeth a newyddenedigol fel rhan o broses penodi'r Panel Goruchwylio a'r teuluoedd hynny sydd wedi ysgrifennu ataf ac sy'n gallu cadarnhau fy mod yn cydnabod yn llawn bod angen ehangu cwmpas yr adolygiad clinigol o achosion.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed o ran y broses o gwblhau'r cwmpas a'r Cylch Gorchwyl. Felly, byddaf yn gofyn am farn ar ddrafft pellach y Cylch Gorchwyl gan gleifion a staff a bydd y farn honno'n cael ei hystyried yn llawn gan y Panel Goruchwylio cyn i'r Cylch Gorchwyl gael ei gwblhau. Rwyf hefyd am ei gwneud yn glir bod cwmpas yr Adolygiad a'r Cylch Gorchwyl yn gyfrifoldeb y Panel Goruchwylio yn gyfan gwbl i'w benderfynu (ar ôl ystyried safbwyntiau arbenigol, cleifion a staff).

Bydd fy niweddariad nesad ar ôl Gwyliau'r Pasg.

Margaret Bowron KC

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.