Sgiliau Maeth am Oes, Yr Adran Maetheg a Deieteg, Bwrdd Iechyd PBA.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan y Gwasanaeth Maetheg a Deieteg. Gallwch gysylltu â:
Pennaeth y Gwasanaeth Maetheg a Deieteg yn:
Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Ffordd Baglan
Port Talbot
SA12 7BX
Ffôn: 01639 862392
E-bost: BIPBA.RheolaethDeietig@wales.nhs.uk
Mae'n bosibl y bydd Sgiliau Maeth am Oes, Yr Adran Maetheg a Deieteg, Bwrdd Iechyd PBA yn casglu a storio eich gwybodaeth yn unol â chanllawiau'r GIG a deddfwriaeth diogelu data. Rydym yn cael eich gwybodaeth o'ch cais ac o'ch ffurflenni cofrestru. Rydym yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â deddfwriaeth diogelu data er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am gyfleoedd hyfforddi, achredu'r cyrsiau y byddwch yn eu mynychu a darparu cymorth parhaus ar ôl yr hyfforddiant ac er mwyn cadw cofnodion cywir, cyfredol sy’n ein galluogi ni i reoli’r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth yn well. Byddwn ond yn casglu'r data sydd ei angen arnom megis enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyflogaeth, manylion cyswllt e.e. cyfeiriad, ffôn, e-bost.
Bydd y wybodaeth yn ein helpu i roi'r cyfleoedd hyfforddi a'r cymorth priodol i chi a bydd yn arwain at wasanaeth gwell i bawb ar gyfer y dyfodol.
Mae modd i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon o dan Erthygl 6(1)(e) o'r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) gan fod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein swyddogaethau swyddogol fel un o gyrff y GIG. Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithlon eraill, er enghraifft pan fo angen prosesu gwybodaeth er mwyn i ni gydymffurfio â'r gyfraith.
Mae modd i ni brosesu gwybodaeth am gategorïau arbennig yn gyfreithlon o dan Erthygl 9(2)(h) o'r GDPR y DU gan fod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer darparu gofal iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu ar gyfer rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
Rydym yn rhannu eich gwybodaeth rhwng adrannau perthnasol o fewn y gwasanaeth iechyd.
Mae hyn yn cynnwys Partneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru at ddibenion e-Ddysgu. Gwneir hyn yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Byddwn yn casglu’r wybodaeth am eich categori personol ac arbennig ar ran Agored Cymru (corff dyfarnu'r cwrs) at ddibenion prosesu’ch cofrestriad ar gyfer y cwrs pan fo'n berthnasol. Gellir dod o hyd i ddatganiad preifatrwydd Agored Cymru drwy ddilyn y ddolen hon i'w gwefan.
Bydd Sgiliau Maeth am Oes, yr Adran Maetheg a Deieteg, yn cadw eich gwybodaeth yn unol â chanllawiau cenedlaethol a chyfreithiol ar gyfer rheoli cofnodion. Ni fyddwn yn cadw eich gwybodaeth am fwy o amser nag sydd angen.
Mae gennych lawer o hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, mae gennych:
Mae canllawiau pellach ar sut i arfer eich hawliau ar gael drwy ddilyn y ddolen hon i wefan yr ICO.
Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn gydag awdurdod goruchwylio os ydych yn anhapus ynglŷn â sut y prosesir eich data.
Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac mae’r manylion cyswllt i’w gweld isod:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421
Sgwrs ar-lein/fyw: Dilynwch y ddolen hon i sgwrs fyw ar-lein ICO drwy eu gwefan.
Llinell gymorth: 0303 123 1113
Rhoddir manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data isod:
Swyddog Diogelu Data
Pencadlys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
1 Porthfa Talbot
Port Talbot
SA12 7BR
E-bost: BIPBA.SwyddogDiogeluData@wales.nhs.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.