Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau a Rheoliadau

Rheoliadau'r Llyfrgell

Cyflwyniad

 
Mae Gwasanaeth y Llyfrgell yn darparu gwasanaeth i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA), meddygon teulu a staff practisau yn yr ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu gan y Bwrdd Iechyd.  Mae hefyd yn darparu gwasanaeth i fyfyrwyr sy'n perthyn i'r categorïau a welir dan y pennawd 'Cwmpas' (isod).

Mae'r Rheoliadau canlynol yn berthnasol i'r holl staff, y myfyrwyr ac unrhyw un arall sy'n defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell. Disgwylir i bob defnyddiwr gadw atynt er mwyn sicrhau gwasanaeth effeithiol ac osgoi anghyfleustra i ddefnyddwyr eraill. Mae'r rheoliadau'n berthnasol i'r holl lyfrgelloedd ond gall rheolau arbennig, sy'n cael eu harddangos mewn llyfrgelloedd penodol, gael blaenoriaeth.

 

Cwmpas

 

Gweithwyr BIPA: Mae gan weithwyr BIPBA yr hawl i fod yn aelodau llawn o'r llyfrgell, sy'n cynnwys benthyca a chael mynediad y tu allan i oriau, pan fo hynny ar gael. Dylai staff ar gontractau dros dro wneud cais i'r llyfrgell lle maent wedi'u lleoli a chaiff eu ceisiadau eu hystyried yn unigol. Dylid cyflwyno cerdyn adnabod y Bwrdd Iechyd neu gerdyn adnabod myfyriwr neu lythyr contract wrth wneud cais i fod yn aelod o'r llyfrgell. 

 

Aelodau sy'n fyfyrwyr: Gall myfyrwyr sydd ar raglen Feddygaeth (Mynediad i Raddedigion) Prifysgol Abertawe a'r rhaglen i Feddygon Cyswllt, neu fyfyrwyr sydd ar leoliad o Brifysgol Caerdydd, neu fyfyrwyr a ariennir o brifysgolion neu sefydliadau addysg uwch eraill wneud cais i fod yn aelodau o'r llyfrgell.

 

Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais am aelodaeth o'r llyfrgell lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer y llyfrgell. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr hysbysu'r llyfrgell o unrhyw newidiadau i'w manylion personol, er enghraifft, teitl swydd, lleoliad, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn.

 

Nid oes modd trosglwyddo cardiau llyfrgell a mynediad. Dylid rhoi gwybod ar unwaith am gardiau coll; codir ffi am gerdyn newydd yn lle'r un coll.

 

Pryd bynnag y bydd unrhyw ddeunydd yn cael ei fenthyg o'r llyfrgell, neu pan fydd aelod o staff y llyfrgell yn gofyn amdano, dylid cyflwyno cerdyn adnabod y Bwrdd Iechyd neu gerdyn y benthycwr, fel y bo'n briodol.

 

Mae llofnodi ffurflen gofrestru'r Llyfrgell yn dangos eich bod yn deall ac yn derbyn rheoliadau Gwasanaeth y Llyfrgell. Gallai torri'r rheoliadau arwain at dynnu aelodaeth yn ôl. Mae'r holl wybodaeth am ddefnyddwyr y llyfrgell yn cael ei storio'n unol â Deddf Diogelu Data 2018.

 

Defnyddwyr Eraill: Gall unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn ddefnyddio deunydd y llyfrgell yn ddi-dâl pan fydd at ddibenion cyfeirio. Rhaid i'r rheini sy'n dymuno defnyddio'r llyfrgell at ddibenion cyfeirio wneud eu hunain yn hysbys i staff y llyfrgell a bydd yn ofynnol iddynt lenwi ffurflen gofrestru. Ceir mynediad i'r llyfrgell yn ôl disgresiwn staff y llyfrgell. Dim ond yn ystod oriau gwaith staff y mae deunyddiau cyfeirio ar gael ac ni ddylid ceisio mynd i mewn i'r llyfrgelloedd y tu allan i oriau.

 

Benthyca

 

Hawliau benthyg: Y nifer uchaf o eitemau a all fod ar fenthyg i fenthyciwr ar unrhyw adeg yw 10 eitem o lyfrgelloedd ar draws Bwrdd Iechyd PBA. Cyfrifoldeb deiliad y cerdyn yw benthyciadau. Rhaid i aelodau beidio â benthyca ar ran eraill a bydd yn ofynnol iddynt dalu am unrhyw eitemau a gollir tra byddant ar eu cyfrif.

 

Cyfnodau benthyg: Gellir benthyca eitemau am gyfnod o ddwy neu bedair wythnos.

 

Cyfnodolion : Nid oes cyfnodolion ar gael i'w benthyca. Mae cyfleusterau llungopïo ar gael ar bob safle.

 

Archebu: Caniateir archebu deunydd ar gyfer pob categori o ddeunydd sydd ar gael i'w fenthyg.

 

Adnewyddu: Gellir adnewyddu eitemau'n bersonol, dros y ffôn, trwy e-bost neu trwy'r catalog ar-lein os nad oes eu hangen ar ddefnyddiwr arall.

Gofyn am ddeunydd yn ôl:  Gallwn ofyn i chi ddychwelyd, cyn y dyddiad dyledus, unrhyw ddeunydd llyfrgell y mae'n bosib gofyn amdano'n ôl er mwyn cael ei ddefnyddio gan fenthyciwr arall.

Eitemau cyfeirio yn unig: Mae rhai mathau o ddeunydd llyfrgell, gan gynnwys cyfnodolion a gwaith cyfeirio, wedi'u dynodi fel rhai nad ydynt ar fenthyg ac ni ellir eu cymryd allan o'r llyfrgell.

 

Ni ddylid cymryd deunydd llyfrgell allan o'r DU ac eithrio gyda chaniatâd staff y llyfrgell.

Mae tag ar yr holl stoc a bydd yn sbarduno larymau os cânt eu tynnu heb awdurdodiad.

 

Wrth adael y Bwrdd Iechyd

 

Pan fydd aelod o'r llyfrgell yn peidio â bod yn fyfyriwr neu'n gyflogai i'r Bwrdd Iechyd, rhaid iddo/i hysbysu'r llyfrgell ac ildio'r cerdyn llyfrgell. Rhaid dychwelyd unrhyw eitemau sy'n weddill.

 

Mynediad y tu allan i oriau

 

Gall aelodau cofrestredig wneud cais am fynediad y tu allan i oriau. Defnyddir y dulliau canlynol:

 

  • Cerdyn mynediad yn Llyfrgelloedd Ysbyty Treforys a Singleton (y gellir ei ddefnyddio ar y naill safle neu'r llall)
  • Ffob yn Llyfrgell Ysbyty Cefn Coed
  • Cod i'w ddefnyddio yn Llyfrgell Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

 

Mae angen blaendal o £10 pan ofynnir am fynediad y tu allan i oriau. Cedwir y dderbynneb gyda'r ffurflen gofrestru. Pan fydd aelod o'r llyfrgell yn peidio â bod yn fyfyriwr neu'n gyflogai i'r Bwrdd Iechyd, rhaid ildio'r cerdyn mynediad neu'r ffob ar unwaith a dychwelir y blaendal os dychwelir y cerdyn mewn cyflwr da ac os yw'n gweithio'n llawn.

 

Os yw cerdyn yn cael ei golli neu ei ddifrodi rhaid i'r perchennog hysbysu'r llyfrgell cyn gynted â phosibl. Y tâl am gerdyn newydd a'r gwaith gweinyddol yw £5.00.

 

Cedwir cofnod o'r holl bobl sy'n dod i mewn i'r adeilad. Rhaid peidio â benthyg cardiau i unigolion eraill. Rhaid i ddefnyddwyr beidio â derbyn eraill i mewn i'r llyfrgell pan nad oes staff yno.

 

Bydd blaendaliadau yn cael eu cadw am chwe mis ar ôl i ddefnyddiwr y llyfrgell adael y Bwrdd Iechyd. Bydd unrhyw flaendaliadau na chawsant eu casglu ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hychwanegu at gyllideb lyfrau'r llyfrgell lle y talwyd y blaendaliadau.

 

Cod Ymddygiad

 

Colli neu ddifrodi deunydd y llyfrgell

 

Rhaid i ddefnyddwyr dalu iawndal am ddifrodi neu golli deunydd y llyfrgell; mae hyn yn cynnwys tanlinellu, tynnu sylw at neu ysgrifennu mewn llyfrau gyda marciwr neu ysgrifbin. Dylid tynnu sylw at staff y llyfrgell cyn gynted â phosibl at unrhyw farciau neu nam sydd ar y deunydd yn barod.

 

Rhaid i fenthycwyr nad ydynt yn gallu dychwelyd eitem llyfrgell dalu am gost copi newydd. Codir tâl gweinyddol na ellir ei ddychwelyd. Cyfrifoldeb y benthyciwr yw dychwelyd eitemau'n ddiogel, naill ai i flwch dychwelyd y llyfrgell, sef blwch wedi'i gloi, neu i aelod o staff y llyfrgell. Dylai eitemau a ddychwelir trwy'r post gael eu danfon gan ddefnyddio gwasanaeth cofnodi parseli.

 

Bydd hawliau benthyca defnyddwyr sy'n methu â dychwelyd deunydd y llyfrgell pan ofynnir iddynt wneud hynny yn cael eu hatal. Rhoddir gwybod i'r Adran Gyllid am ddyledion sy'n weddill.

Cyfrifoldeb y defnyddiwr yw sicrhau bod benthyciadau naill ai'n cael eu hadnewyddu neu eu dychwelyd mewn pryd. Pan fydd eitemau wedi'u benthyca, gellir gweld y dyddiadau dyledus ar labeli dyddiad ac maent bob amser i'w gweld trwy'r catalog llyfrgell ar-lein neu trwy gysylltu â Gwasanaeth y Llyfrgell.

 

Ymddygiad defnyddwyr

 

Dylid bod yn ystyriol o eraill ym mhob llyfrgell, fel y gall defnyddwyr eraill weithio mewn awyrgylch sy'n ffafriol i astudio. Caniateir offer blip yn y llyfrgelloedd a darperir ffonau ar gyfer ateb bipiau neu er mwyn cysylltu â'r ward. Caniateir ffonau symudol ar osodiadau tawel yn unig, a gofynnir i ddefnyddwyr adael y llyfrgell i gynnal sgyrsiau personol.

Ni ellir dal y Gwasanaeth Llyfrgell yn gyfrifol am golli eiddo personol unrhyw ddefnyddiwr mewn unrhyw un o adeiladau'r gwasanaeth. Ni ddylid gadael unrhyw feddiannau personol a ddygir i'r llyfrgelloedd heb oruchwyliaeth ac ni ddylent achosi rhwystr i ddefnyddwyr eraill. Ni chaniateir cadw seddi gwag am fwy nag awr.

Wrth adael y llyfrgell, rhaid i'r holl lyfrau, p'un a ydynt yn perthyn i'r gwasanaeth llyfrgell ai peidio, fod ar gael i'w gwirio gan staff y llyfrgell yn ôl yr angen. Os bydd staff y llyfrgell yn gofyn amdanynt, rhaid bod yn barod i roi cotiau, bagiau ac unrhyw feddiannau eraill i'r staff er mwyn eu harchwilio.

 

Os bydd larwm tân parhaus yn swnio, rhaid i chi adael y llyfrgell ar unwaith.

 

Gall Rheolwyr Gwasanaeth y Llyfrgell atal unrhyw ddefnyddiwr rhag defnyddio gwasanaethau ac adeiladau'r llyfrgell am dorri rheoliadau gwasanaeth y llyfrgell neu am gamymddygiad difrifol. Mae Gwasanaeth y Llyfrgell yn dod o dan Bolisi'r Bwrdd Iechyd ar gyfer Rheoli Trais ac Ymddygiad Ymosodol. Os bydd unrhyw un o ddefnyddwyr y llyfrgell yn difrïo aelod o staff neu ddefnyddiwr arall ar lafar, neu'n eu bygwth neu'n ymosod arnynt, gofynnir iddynt adael a thynnir eu breintiau o ran defnyddio'r llyfrgell oddi arnynt ar unwaith (gan gynnwys benthyca, mynediad y tu allan i oriau a'r hawl i ddefnyddio'r llyfrgell). Rhoddir gwybod i'r rheolwr llinell (yn achos staff) ac i'r tiwtor personol (yn achos myfyrwyr) am unrhyw waharddiad o'r fath.


Dylid codi unrhyw gŵyn am Wasanaethau'r Llyfrgell gyda'r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgell sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwnnw. Os na all hyn ddatrys y broblem, yna dylid ei thrafod gyda'r Rheolwr yn Adran y Cyfarwyddwr Meddygol a fydd yn cyfeirio'r mater at Bwyllgor Llyfrgell y Bwrdd Iechyd fel sy'n briodol.

 

Cyfrifiaduron ac adnoddau electronig

Rhaid i'r defnydd o adnoddau electronig gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol sy'n llywodraethu'r meysydd hyn ac â'r polisïau diogelwch a weinyddir gan y rhwydwaith perthnasol.

 

Mae cyfrifiaduron sy'n darparu “mynediad agored” i'r rhyngrwyd yn cael eu monitro'n llym. Mae defnyddio unrhyw un o gyfrifiaduron y GIG yn y llyfrgell i gael mynediad at wefannau amhriodol yn golygu bod y defnyddiwr yn torri polisi rhyngrwyd y Bwrdd Iechyd a bydd hyn yn arwain at gamau disgyblu ar gyfer gweithwyr (neu'n arwain at dynnu hawliau mynediad yn ôl i weithwyr nad ydynt yn gweithio i'r Bwrdd Iechyd). Mae storio a/neu adael gwybodaeth adnabyddadwy (cleifion neu staff) ar gyfrifiaduron y llyfrgell yn golygu bod y defnyddiwr yn torri'r Ddeddf Diogelu Data a gallai hyn arwain at gymryd camau cyfreithiol. Mae lawrlwytho neu osod meddalwedd ar unrhyw un o gyfrifiaduron y llyfrgell yn cael ei wahardd yn llwyr.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.