Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflen gais Cerdyn Mynediad Allan o Oriau

Cwblhewch y ffurflen isod. Bydd eich llyfrgell enwebedig yn prosesu eich cais ac yn eich hysbysu pan fydd eich cerdyn yn barod i'w gasglu. Sylwch, mae angen blaendal o £10 mewn arian parod yn unig y gellir ei ad-dalu.

 

Sylwch, trwy gyflwyno ffurflen, eich bod yn cytuno i'r telerau ac amodau isod:

  • Byddwch yn rhoi blaendal o £10.00. Os nad ydych bellach yn gyflogai/myfyriwr ar leoliad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ni fydd gennych hawl i gerdyn mynediad y tu allan i oriau. Bydd yr arian parod o £10 yn cael ei ad-dalu pan fydd y cerdyn yn cael ei ddychwelyd.
  • Os caiff y cerdyn ei golli neu ei ddifrodi, codir tâl o £5.00 am gerdyn newydd. Rhowch wybod i'r Llyfrgell Staff os yw'r cerdyn ar goll.
  • Mae pob cerdyn mynediad wedi'i bersonoli a chedwir cofnod o bawb sy'n dod i mewn i'r adeilad. Peidiwch â benthyca'r cerdyn i unrhyw unigolyn arall.
  • Bydd methu ag arsylwi ar yr uchod yn arwain at wrthod mynediad y tu allan i oriau i'r llyfrgelloedd.
  • Wrth adael cyflogaeth y Bwrdd Iechyd dychwelwch y cerdyn o fewn 3 mis a hawliwch y blaendal. Bydd blaendal nas hawlir erbyn y cyfnod hwn yn cael eu hychwanegu at gyllideb llyfrau'r Llyfrgell.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.