Neidio i'r prif gynnwy

Sut olwg fydd ar fy nghefnogaeth gan CAMHS nawr?

  1. Os cawsoch eich cyfeirio at CAMHS, cewch eich rhoi ar restr aros am eich apwyntiad cyntaf, weithiau gelwir yr apwyntiad hwn yn 'Apwyntiad Dewis' (sef dechrau eich 'asesiad' yn aml). Nid oes angen poeni, dim ond sgwrs yw hi fel rheol fel y gall y tîm ddod i'ch adnabod chi a'r ffordd orau y gallant helpu.
  2. Y newid allweddol yw y gall yr apwyntiad hwn ddigwydd yn rhithwir neu, mewn rhai achosion, dros y ffôn, ond dim ond os ydych chi'n hapus â hyn a bod gennych y dechnoleg gywir gartref i gael mynediad i'r system rithwir.
  3. Os na ellir cwblhau eich apwyntiad rhithwir neu dros y ffôn, efallai y cynigir apwyntiad wyneb yn wyneb i chi. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a'ch tîm lleol. Yn gyffredinol, bydd yr apwyntiad hwn yn digwydd mewn clinig CAMHS. Ond mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddan nhw'n cwrdd â chi yn eich ysgol, ond nid eich cartref fel arfer ar hyn o bryd. Pan fyddwch chi'n mynychu'ch apwyntiad, gofynnir i chi wisgo mwgwd, golchi neu lanweithio'ch dwylo a chadw pellter o ddau fetr i ffwrdd o'r person agosaf.
  4. Mae'n bwysig nodi y bydd gan rai gwasanaethau CAMHS amseroedd aros hirach o ganlyniad i'r pandemig. Os ydych chi ar y rhestr aros, bydd eich Tîm CAMHS lleol mewn cysylltiad cyn gynted ag y bydd apwyntiad ar gael.
  5. Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n waeth yn ystod yr amser hwn, gallwch barhau i gysylltu â'r tîm i gael help a chyngor neu gysylltu â rhai o'r sefydliadau cymorth a restrir uchod. Efallai y bydd eich meddyg teulu hefyd yn gallu helpu a gwneud atgyfeiriad brys. Os ydych chi'n teimlo mewn argyfwng gallwch gysylltu â 101 i gael cyngor, eich heddlu lleol neu fynd i'ch Adran Achosion Brys leol i gael gofal brys. Gwnewch hynny mewn argyfwng yn unig.
  6. Yn ystod eich apwyntiad cyntaf byddwch fel arfer yn cwrdd ag un neu ddau aelod o dîm CAMHS. Os ydych chi o dan 16 oed, gellir gwahodd eich rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu'ch gofalwr/gofalwyr i ymuno â rhan o'r cyfarfod hwn. Pan fyddwch chi'n cwrdd â'r tîm, gofynnir rhai cwestiynau i chi. Mae hyn er mwyn helpu'r tîm i ddeall yr hyn rydych chi'n cael trafferth ag ef, ac i gael gwell syniad o'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi.
  7. Tua diwedd y sesiwn, bydd y tîm yn siarad â chi am yr hyn sy'n digwydd nesaf a pha gefnogaeth maen nhw'n meddwl y gallai fod ei hangen arnoch chi. Cofiwch y gallwch chi hefyd ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus i ofyn cwestiwn, gall fod yn ddefnyddiol i ysgrifennu'r cwestiynau cyn i chi fynd i mewn neu siarad â rhiant / gwarcheidwad / gofalwr am yr hyn rydych chi am ei wybod cyn i chi ddod.
  8. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo bod angen cefnogaeth arnoch gan eiriolwr (Mae eiriolwr yn berson dibynadwy, weithiau'n weithiwr proffesiynol a all eich cefnogi i gael eich clywed ac i'ch helpu i gyfleu'r hyn rydych chi'n ei feddwl a'i deimlo). Bydd gwasanaethau eiriolaeth proffesiynol ar gael yn eich ardal chi a dylai fod gan eich Tîm CAMHS wybodaeth am y rhain a gallu atgyfeirio ar eich rhan am gefnogaeth. Os mai Cymraeg yw eich iaith ddewisol, dylid cynnig eich asesiad a'ch cefnogaeth yn yr iaith hon i chi.
  9. Yn ystod eich apwyntiad, gall y tîm siarad am driniaeth neu apwyntiad partneriaeth dilynol i drafod eich triniaeth. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n rhoi cynllun ar waith ar gyfer y gwaith y byddwch chi'n ei wneud gyda'ch gilydd i'ch helpu chi i deimlo'n well. Bydd y tîm yn trafod pryd y bydd angen i chi eu gweld nhw eto neu a fyddant yn cwblhau unrhyw rannau pellach o'ch asesiad ai peidio.
  10. Yn dilyn eich asesiad, byddwch yn derbyn llythyr, a fydd yn dweud wrthych am yr hyn y mae eich asesiad wedi'i ddangos a pha gymorth y gallai fod ei angen arnoch, gall hyn gynnwys therapi a / neu feddyginiaeth. Os oes angen cymorth pellach arnoch, bydd y tîm yn ysgrifennu atoch gydag apwyntiad dilynol, gan ddisgrifio beth fydd yn digwydd nesaf.
  11. Gellid cynnal apwyntiadau dilynol yn rhithwir, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o driniaeth sydd ei hangen arnoch.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.