Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor hir y bydd yn rhaid imi aros am gefnogaeth gan CAMHS?

Bydd pa mor hir y mae'n rhaid i chi aros yn dibynnu ar yr amseroedd aros yn eich ardal leol. Effeithiodd y pandemig ar y rhain a gallan nhw fod yn hirach na'r arfer. Gallwch ddarganfod pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros trwy gysylltu â'ch Tîm CAMHS lleol.

Mae'n bwysig cofio y gallwch gael gafael ar gymorth wrth i chi aros am asesiad. Mae yna lawer o wasanaethau a fydd yn gallu cynnig gwybodaeth dda, cyngor a chymorth cynnar i chi. Mae sefydliadau cymorth wrthi'n brysur yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu eu gwasanaethau yn ddiogel, ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Ewch i'r dudalen hon i gael cyngor ar gael cefnogaeth gan sefydliadau eraill.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.