Gallwch hefyd roi cynnig ar y sefydliadau hyn.
Sylwir os gwelwch yn dda bod rhai dolenni allanol ddim ar gael yn y Gymraeg.
Ydych chi'n berson ifanc sy'n ei chael hi'n anodd yn ystod y pandemig? Gan gydnabod bod llawer o bobl ifanc yn cael y sefyllfa bresennol yn heriol, mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd ar-lein sy'n hyrwyddo'r nifer o offer digidol sydd wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi pobl ifanc â'u hiechyd meddwl a'u lles emosiynol eu hunain.
Mae Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cysylltu pobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, â gwefannau, apiau, llinellau cymorth a mwy i adeiladu gwytnwch a'u cefnogi trwy'r pandemig Coronavirus a thu hwnt. Mae'r dyluniad syml yn galluogi defnyddwyr i reoli eu hiechyd meddwl trwy gyfrwng sy'n addas iddyn nhw, gyda gwybodaeth, hunangymorth, a chyngor ar sut i geisio cefnogaeth bellach wedi'i hymgorffori drwyddi draw.
Os ydych chi'n parhau i gael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, siaradwch â'ch meddyg teulu.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.