Neidio i'r prif gynnwy

Plant, pobl ifanc a'r brechlyn ffliw

Plant rhwng 2 a 3 oed

Bydd plant cymwys rhwng 2 a 3 oed yn cael eu brechlyn yn bennaf yn eu meddygfa.

Cynigir y chwistrell drwynol Fluenz iddynt.

Achosir y ffliw gan firws sy'n lledaenu'n hawdd drwy besychu a thisian. Gall unrhyw un ei ddal, ond mae plant yn fwy tebygol o'i ddal a gallant fynd yn sâl iawn. Mae symptomau'r ffliw yn cynnwys peswch, dolur gwddf, twymyn, poenau yn y corff, cur pen, a theimlo'n flinedig iawn.

Mae cannoedd o blant yn cael eu derbyn i'r ysbyty bob blwyddyn oherwydd y ffliw, gyda nifer ohonynt angen triniaeth mewn uned gofal dwys.

Bydd cael brechlyn chwistrell drwynol gyflym a di-boen yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag dal y ffliw. Bydd hefyd yn helpu i leihau'r risg y byddant yn lledaenu'r ffliw i deulu a ffrindiau.

Mae brechiad ffliw heb gelatin ar gael os yw'n well gennych i'ch plentyn gael hwn yn lle hynny. Cysylltwch â ni fel nad ydynt yn colli'r cyfle. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gelatin porc ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy ddilyn y ddolen hon. 

Hyd yn oed os yw eich plentyn wedi cael ei frechu o'r blaen, mae'r amddiffyniad yn gwanhau, ac mae straeniau'r firws yn newid dros amser. Dyma pam y cânt eu gwahodd i gael dos arall.

Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y brechlyn ffliw trwy'r trwyn i blant a phobl ifanc, ar ffurf PDF hawdd ei ddarllen.

Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth i chwalu mythau ar gyfer plant a phobl ifanc, ar ffurf PDF hawdd ei ddarllen.

Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am ffobia nodwyddau ar gyfer plant a phobl ifanc, ar ffurf PDF hawdd ei ddarllen.

Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad ac yn dymuno rhannu eich barn a'ch profiadau ynghylch brechlyn Fluenz (chwistrell drwynol y ffliw) a gynigir i blant 2–3 oed, dilynwch y ddolen hon i Microsoft Forms.

Plant a phobl ifanc o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 11

Bydd y tîm nyrsio ysgol yn cynnig y brechlyn i bob plentyn/person ifanc sy'n mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd.

Cynigir y chwistrell drwynol Fluenz iddynt.

Bydd ein rhaglen brechu yn erbyn y ffliw yn yr ysgolion yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 14 Medi a dydd Mercher 9 Rhagfyr ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd, o'r dosbarth derbyn i Flwyddyn 11.

Os ydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn nad yw'n mynychu'r ysgol, neu os yw eich plentyn wedi methu ei glinig brechu yn yr ysgol, cysylltwch â'ch meddygfa i drefnu'r brechiad.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynnig Fluenz i ysgolion, dilynwch y ddolen hon i dudalen we brechu plant oed ysgol gan nyrsys ysgol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.