Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth am ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau ar gael i chi yn barhaus. Rydym yn casglu, monitro a chyhoeddi data allweddol yn barhaus.
Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael mynediad hawdd at y wybodaeth ddiweddaraf am sut rydym ni'n perfformio, sut rydym ni'n gwella, a sut rydym ni'n darparu gofal diogel ac effeithiol. Drwy fod yn agored ac yn dryloyw, ein nod yw meithrin ymddiriedaeth, cefnogi dysgu, a grymuso pobl i ddeall ansawdd y gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn. Isod, fe welwch ddolenni i bob un o'r meysydd hyn, gan eich helpu i archwilio ein data yn fanylach.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.