Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Byw Bywyd yn Dda

Sylwch, oherwydd Covid-19, mae ein hamserlen cyrsiau llesiant wedi'i gohirio ar hyn o bryd.

Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted ag y bydd hyn yn newid ac, yn y cyfamser, byddwn yn defnyddio'r dudalen hon i rannu ystod o adnoddau y byddwch yn gallu eu dilyn gartref.

Mae'r Rhaglen Byw Bywyd yn dda yn rhaglen llesiant am ddim sy'n cyflwyno ystod o gyrsiau a addysgir a gweithdai rhyngweithiol llai i'r cyhoedd ledled Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe.

Yn ystod gweithrediad arferol, mae gennym raglen dreigl o gyrsiau a gweithdai, sy'n cynnig amseroedd bore, prynhawn a min nos. Cyflwynir cyrsiau o'r fath gan Ymarferwyr Therapi Seicolegol Dwysedd Isel sydd â chefndir mewn Seicoleg a therapïau.

Gallwn eich helpu i ddod i ddeall anawsterau iechyd meddwl a darparu sgiliau a thechnegau ymdopi i wella eich lles seicolegol.

Mae gan bob un ohonom iechyd meddwl, yn yr un modd ag y mae gan bob un ohonom iechyd corfforol - felly mae croeso i unrhyw un a phawb ddod i helpu i wella eu lles seicolegol.

Mae pobl yn dod i'r cyrsiau a'r gweithdai am amryw o resymau; p'un a ydynt yn nodi bod ganddynt broblem â'u hwyliau yn bersonol, eu bod am gefnogi ffrind neu anwylyd, neu hyd yn oed eu bod eisiau dysgu mwy am y ffordd y mae eu meddwl yn gweithio a sut i wella eu lles cyffredinol.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.