Neidio i'r prif gynnwy

Teimladau ar ôl dod adref

Teimladau ar ôl dod adref

Gall salwch sydyn fel COVID-19 fod yn brofiad trawmatig a all ein cynhyrfu a'n poeni. Gall digwyddiadau trawmatig ennyn teimladau pwerus ac annifyr ynom sydd fel arfer yn setlo mewn amser, heb unrhyw gymorth proffesiynol.

Rydych chi wedi bod trwy brofiad trawmatig fel COVID-19 ac efallai yr hoffech chi ddeall mwy am sut rydych chi'n ei deimlo.

Mae'r adran hon yn disgrifio'r math o deimladau sydd gan bobl ar ôl trawma a beth i'w ddisgwyl wrth i amser fynd yn ei flaen.  Mae hefyd yn sôn am rai ffyrdd o ymdopi a dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.

Mae digwyddiad trawmatig yn digwydd pan fydd person mewn sefyllfa lle mae risg o niwed neu berygl iddo'i hun neu i bobl eraill. Mae sefyllfaoedd fel hyn fel arfer yn frawychus neu'n achosi llawer o straen. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, mae pobl yn teimlo'n ddiymadferth.

Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig yn cynnwys:

  • damweiniau neu ddigwyddiadau difrifol
  • cael gwybod bod gennych salwch a allai fygwth bywyd.

Yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, mae'n gyffredin i bobl deimlo sioc, neu'n ddideimlad, neu fethu â derbyn yr hyn sydd wedi digwydd neu eu hynysu eu hunain o'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Pan fyddwch chi'n gwadu, ni allwch dderbyn ei fod wedi digwydd, felly rydych chi'n ymddwyn fel pe na bai wedi bod. Efallai y bydd pobl eraill yn meddwl eich bod yn gryf neu nad ydych yn poeni am yr hyn sydd wedi digwydd. Dros sawl awr neu ddiwrnod, mae'r sioc a'r gwadu'n pylu'n raddol, ac mae meddyliau a theimladau eraill yn cymryd eu lle.

Mae pobl yn ymateb yn wahanol ac yn cymryd gwahanol gyfnodau o amser i ddod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd. Er hynny, efallai y bydd cryfder eich teimladau yn eich synnu.

Mae'n arferol profi cymysgedd o deimladau.

Rhai pethau a allai fod o gymorth:

  • Rhowch amser i chi eich hun - Weithiau mae'n cymryd wythnosau neu fisoedd i dderbyn yr hyn sydd wedi digwydd ac i ddysgu byw gyda'i effaith arnoch chi. Efallai y bydd angen i chi alaru am yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Gofynnwch am gefnogaeth - Gall fod yn rhyddhad siarad am yr hyn a ddigwyddodd. Efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch ffrindiau a'ch teulu am yr amser i wneud hyn.  Ar y dechrau, efallai na fyddan nhw'n gwybod beth i'w ddweud neu ei wneud.
  • Neilltuwch ychydig o amser i chi'ch hun - efallai y bydd adegau pan fyddwch chi eisiau bod ar eich pen eich hun neu gyda'r rhai sy'n agos atoch chi yn unig.
  • Trafodwch y peth - Fesul tipyn, gadewch i'ch hun feddwl am y salwch a'ch profiad a siaradwch amdano gydag eraill. Peidiwch â phoeni os ydych chi'n crio wrth siarad, mae'n naturiol ac fel arfer yn ddefnyddiol. Gwnewch bethau ar gyflymder sy'n gyffyrddus i chi.
  • Dilynwch drefn benodol - Bwytewch yn rheolaidd a dechrau gwneud ymarfer corff yn raddol.
  • Gwnewch rai pethau 'normal' gyda phobl eraill pan allwch chi. Weithiau byddwch chi eisiau bod gyda phobl eraill, yn ddigidol neu'n bersonol pan allwch chi, ond nid i siarad am yr hyn sydd wedi digwydd. Gall hyn hefyd fod yn rhan o'r broses iacháu.
  • Cymerwch ofal - Ar ôl salwch trawmatig, gall sylw pobl gael ei dynnu, ac felly maen nhw'n fwy tebygol o gael damweiniau. Byddwch yn ofalus o amgylch y cartref a phan ydych chi'n gyrru.

Pethau nad ydyn nhw'n helpu

  • Mygu eich teimladau - Mae teimladau cryf yn naturiol. Gall eu mygu nhw wneud i chi deimlo'n waeth a gall niweidio'ch iechyd. Gadewch i'ch hun siarad am yr hyn sydd wedi digwydd a sut rydych chi'n teimlo, a pheidiwch â phoeni os ydych chi'n crio.
  • Gwneud gormod - Mae angen amser arnoch i feddwl i fynd dros yr hyn a ddigwyddodd er mwyn i chi ddod i delerau ag ef. Cymerwch amser i fynd yn ôl i'ch hen drefn.
  • Yfed neu ddefnyddio cyffuriau - Gall alcohol neu gyffuriau ddileu atgofion poenus am ychydig, ond byddant yn eich atal rhag dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd. Gallant hefyd achosi iselder ysbryd a phroblemau iechyd eraill.
  • Gwneud newidiadau mawr mewn bywyd - Ceisiwch ohirio unrhyw benderfyniadau mawr. Efallai na fyddwch yn gallu barnu pethau'n dda ac efallai y byddwch yn gwneud dewisiadau yr ydych yn eu difaru wedyn. Cymerwch gyngor gan bobl rydych chi'n ymddiried ynddynt.

Beth arall y gallwn i sylwi arno?

Mae teimladau cryf yn effeithio ar iechyd corfforol. Yn yr wythnosau ar ôl salwch trawmatig mawr efallai y gwelwch eich bod yn:

  • Methu â chysgu / teimlo'n flinedig iawn.
  • Breuddwydio llawer a chael hunllefau.
  • Cael problemau gyda'r cof.
  • Cael anhawster meddwl yn glir.
  • Dioddef cur pen.
  • Profi newidiadau yn eich archwaeth am fwyd.
  • Profi newidiadau mewn ysfa rywiol neu libido.
  • Teimlo bod eich calon yn curo'n gyflymach.

Pryd dylwn i gael help proffesiynol?

Efallai y bydd teulu a ffrindiau yn gallu eich gweld trwy'r amser anodd hwn. Mae llawer o bobl yn canfod bod y teimladau y maen nhw'n eu profi ar ôl digwyddiad trawmatig yn lleihau'n raddol ar ôl tua mis. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi weld gweithiwr proffesiynol os yw'ch teimladau'n ormod i chi, neu'n para'n rhy hir (y tu hwnt i 4-5 wythnos ar ôl y digwyddiad trawmatig). Os yw'r canlynol yn wir amdanoch chi, dylech fwy na thebyg ofyn i'ch meddyg teulu am help:

  • Nid oes gennych unrhyw un i rannu'ch teimladau â nhw.
  • Ni allwch ymdopi â'ch teimladau ac rydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich llethu gan dristwch, pryder neu nerfusrwydd.
  • Rydych chi'n teimlo nad ydych chi'n dychwelyd i normal ar ôl i chi wella'n gorfforol.
  • Rydych chi'n cael hunllefau ac ni allwch gysgu.
  • Dydych chi ddim yn dod ymlaen gyda'r rhai sy'n agos atoch chi.
  • Rydych chi'n cadw draw oddi wrth bobl eraill fwy a mwy.
  • Mae eich gwaith yn dioddef.
  • Mae'r rhai o'ch cwmpas yn awgrymu y dylech chi geisio cymorth.
  • Rydych chi'n cael damweiniau.
  • Rydych chi'n yfed neu'n ysmygu gormod, neu'n defnyddio cyffuriau i ymdopi â'ch teimladau.

Beth yw anhwylder straen wedi trawma?

Yn dilyn digwyddiad trawmatig, mae rhai pobl yn profi cyflwr penodol o'r enw anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Ymhlith y symptomau a brofir amlaf gan bobl â PTSD mae:

  • Ailbrofi'r trawma trwy atgofion neu freuddwydion byw a gofidus.
  • Osgoi sefyllfaoedd sy'n eu hatgoffa o'r digwyddiad trawmatig.
  • Teimlo'n ddideimlad, fel pe na bai ganddyn nhw'r un ystod o deimladau ag arfer.
  • Bod yn wyliadwrus - cadw llygad yn agored am berygl.
Pa gymorth proffesiynol sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?

Os ydych chi'n profi problemau a allai fod yn PTSD, dylech ofyn am gymorth proffesiynol gan eich meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at y Gwasanaeth Therapi Seicolegol yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol lle byddwch yn gallu cyrchu'r driniaeth siarad fwyaf priodol a aseswyd i helpu i leddfu'r trawma y gallech fod yn ei brofi. Efallai y bydd eich meddyg teulu hefyd yn rhoi meddyginiaeth i chi i'ch helpu chi i ymdopi.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.