Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n flinedig o ganlyniad i fod yn sâl yn yr ysbyty. Gall hyn ddigwydd ar ôl cael feirws, yn sgil colli cyhyrau ar ôl llawer o amser yn gorffwys mewn gwely neu gadair. Felly mae'n bwysig ceisio cryfhau'r cyhyrau cyn gynted â phosibl ar ôl salwch. Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu gyda hyn.
Wrth i chi ddechrau gwella, mae symud yn rheolaidd yn allweddol. Ychydig ac yn aml sydd orau. Felly mae sefyll i fyny allan o'ch cadair yn rheolaidd a cherdded o amgylch eich cartref yn lle da i ddechrau.
Wrth i chi ddechrau teimlo'n gryfach efallai y bydd mynd am dro byr y tu allan yn helpu i gryfhau'ch cyhyrau a chodi'ch hwyliau. Gallwch ymestyn pa mor bell rydych chi'n cerdded yn raddol wrth i chi ddechrau teimlo'n gryfach.
Bydd ailgyflwyno gweithgareddau dyddiol arferol fel gwaith tŷ, garddio neu goginio yn eich helpu i adennill cryfder a defnydd o'ch cyhyrau. Mae'r adran sy'n dilyn yn disgrifio'r ffordd orau o adeiladu ar eich gweithgareddau beunyddiol.
Mae'n bwysig dewis ymarfer corff rydych chi'n ei fwynhau. Dechreuwch trwy wneud pethau bach bob dydd ac adeiladu'n raddol ar gyflymder sy'n teimlo'n iawn i chi. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cadw dyddiadur ymarfer corff i fonitro'ch cynnydd oherwydd gallai hyn eich annog i gadw cymhelliant ac aros ar y trywydd iawn.
Efallai y bydd eich ffisiotherapydd yn darparu taflen ymarfer corff ychwanegol gydag ymarferion mwy penodol os bydd angen.
(Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)