Neidio i'r prif gynnwy

Diffyg anadl

Diffyg anadl

Mae diffyg anadl yn ymateb arferol wrth ddefnyddio egni, ond mae hefyd yn normal profi rhywfaint o ddiffyg anadl yn gwneud tasgau symlach ar ôl cael haint ar yr ysgyfaint, fel COVID-19.

Mae'n bwysig nad ydych chi'n llwyr osgoi'r pethau sy'n eich gwneud chi'n fyr o anadl, ond dylech chi ystyried pa mor fyr o anadl rydych chi wrth benderfynu faint o weithgaredd rydych chi'n ei wneud.

Dyma raddfa diffyg anadl BORG ac mae'n disgrifio faint o ymdrech mae'n ei gymryd i chi anadlu.

Mae graddfa BORG yn dangos faint o ymdrech yw eich anadlu o 0 i 10.

Pan fyddwch yn defnyddio egni neu'n ymarfer yn ystod y 6 i 8 wythnos gyntaf ar ôl cael eich rhyddhau o'r ysbyty, dylech chi geisio cadw'ch sgôr diffyg anadl yn 3 neu'n is.

Awgrymiadau ar gyfer Rheoli Diffyg Anadl

  1. Lleoliad: Eisteddwch yn pwyso ymlaen, gyda'ch penelinoedd yn gorffwys ar eich pengliniau, neu ar fwrdd. Gallech hefyd bwyso ymlaen ar silff ffenestr neu arwyneb gwaith os ydych chi'n sefyll. Sefwch yn pwyso tuag yn ôl ar wal, gan adael i'ch breichiau a'ch dwylo ymlacio.
  2. Ymarferion anadlu: Rheolaeth anadlu yw anadl ysgafn sy'n defnyddio'r ymdrech leiaf a chaiff ei defnyddio pan fyddwch chi'n brin o anadl neu'n teimlo'n ofnus, yn bryderus neu'n teimlo panig:
  • Rhowch eich hun mewn safle cyfforddus lle gallwch ymlacio
  • Anadlwch i mewn yn ysgafn, yn ddelfrydol trwy'ch trwyn, ond os na, trwy'ch ceg
  • Anadlwch allan naill ai trwy'ch trwyn neu'ch ceg
  • Yn raddol, gwnewch eich anadlu 'allan' yn hirach na'ch anadlu 'i mewn'

Gellir anadlu drwy wefusau wedi eu pletio ar unrhyw adeg i reoli eich anadl. Gallwch hefyd wneud hyn yn ystod gweithgaredd sy'n eich gwneud yn fyr eich anadl er mwyn eich helpu i deimlo llai o ddiffyg anadl:

  • Anadlwch i mewn yn ysgafn, yn ddelfrydol trwy'ch trwyn, ond os na, trwy'ch ceg
  • Wrth i chi anadlu allan, 'pletiwch' eich gwefusau fel petaech chi'n mynd i ddiffodd cannwyll neu chwythu chwiban yn ysgafn
  • Chwythwch allan cyhyd ag sy'n gyffyrddus heb wagio'ch ysgyfaint.

Beth arall?

Yn y dyfodol, os byddwch chi'n parhau'n fyr eich anadl, gall eich meddyg awgrymu mynychu rhywbeth o'r enw Adsefydlu'r Ysgyfaint. Rhaglen yw hon a luniwyd i helpu pobl sy'n fyr eu hanadl oherwydd cyflwr ar yr ysgyfaint, a gallai'r rhaglen fod o fudd i chi.

Mae llawer o adnoddau a gwybodaeth ar gael hefyd gan Sefydliad Ysgyfaint Prydain.

Ewch i wefan Sefydliad Ysgyfaint Prydain i gael mwy o wybodaeth am iechyd yr ysgyfaint a chefnogaeth ar gyfer cyflyrau.

(Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.