Neidio i'r prif gynnwy

Cwsg

Cwsg

Ar ôl cyfnod o salwch, efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig yn aml, neu'n methu â chysgu'n iawn. Efallai y byddwch hefyd yn profi breuddwydion neu hunllefau dwys a byw. Mae'n bwysig iawn cael cwsg rheolaidd er mwyn cadw'ch corff a'ch meddwl yn iach. Er y gall gymryd peth amser i fynd yn ôl i'r drefn gysgu arferol, gall y strategaethau canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Ceisiwch gael trefn gysgu reolaidd, gan fynd i'r gwely ar yr un pryd bob nos a deffro'r un adeg bob dydd.
  • Osgowch gaffein yn hwyr yn y dydd ac yn lle hynny rhowch gynnig ar ddiod laethog cyn mynd i'r gwely.
  • Ymlaciwch drwy fynd i'r bath neu'r gawod os yw'n bosibl.
  • Efallai y bydd yn help gwrando ar y radio neu ddarllen llyfr, ac osgoi sgriniau fel eich ffôn neu'ch teledu am awr cyn mynd i'r gwely.
  • Gall defnyddio chwistrell i'r ystafell ac iddi arogl sy'n eich helpu i ymlacio (fel lafant) eich cynorthwyo i fynd i gysgu. 

Ewch i'r dudalen hon i gael gwybodaeth gan y GIG am gwsg. (Yn anffodus mae hwn yn ddolen allanol, ac nid yw ar gael yn Gymraeg.)

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.