Neidio i'r prif gynnwy

Briwiau pwyso ac osgo'r corff

Briwiau pwyso ac osgo'r corff

Briwiau pwyso (doluriau) yw difrod i'r croen a meinwe sylfaenol y corff a achosir gan bwysau parhaus ar rannau esgyrnog o'r corff. Gallant ddigwydd yn gyflym iawn a gallant arwain at ganlyniadau enbyd. Os byddwch yn treulio llawer o amser mewn un safle, dyma ychydig o ffyrdd i helpu i leihau eich risg:

  • Gall briwiau pwyso ddatblygu yn sgil diffyg symud - ceisiwch symud mor aml ag y gallwch chi
  • Gwiriwch y croen mewn rhannau o'r corff sydd mewn perygl: pen-ôl, sacrwm (bôn asgwrn y cefn), cluniau, fferau, sodlau

Mae

  • Eisteddwch mewn cadair pan fo'n ddiogel ac yn ymarferol gwneud hynny - mae awr yn gwneud gwahaniaeth
  • Ystyriwch y sedd rydych chi'n ei defnyddio mewn perthynas â rhannau o'r corff. Gall eich osgo newid dros amser.
  • Sylwch ar osgo eistedd neu orwedd a all gynyddu'r risg o bwysau ar fannau bregus
  • Os ydych chi yn y gwely ac yn symud llai, defnyddiwch gefnogaeth i'ch helpu i gadw'ch ysgwyddau yn unol â'ch cluniau, cefnogwch y coesau os oes angen. Ceisiwch osgoi bod ar dro. 
  • Defnyddiwch obenyddion, clustogau neu dyweli/blancedi meddal wedi'u plygu os nad oes offer swyddogol ar gael ar gyfer cefnogi'ch osgo yn y gwely 
  • Peidiwch ag anghofio'r traed. Peidiwch â rhoi pwysau ar eich sodlau lle bo hynny'n bosibl.

Gosod eich sedd yn iawn

Mae'n bwysig ystyried sut y gall eich sedd effeithio ar eich risg o ddatblygu briwiau pwysau.

Ystyriwch:

  • Sedd sy'n rhy eang - pen-ôl, penelinoedd mewn perygl
  • Sedd sy'n rhy gul - cluniau mewn perygl
  • Sedd sy'n rhy uchel - sacrwm, pen-ôl, cefn y cluniau mewn perygl
  • Sedd sy'n rhy isel - pen-ôl mewn perygl
  • Sedd sy'n rhy ddwfn - sacrwm, pen-ôl mewn perygl

Mae

Hefyd, mae'n bwysig ystyried y canlynol:

  • Gallai lleddorwedd gynyddu'r pwysau ar y sacrwm
  • Gall codi'r coesau gynyddu'r pwysau ar y sacrwm
  • Gall bod ar ogwydd leihau pwysau ar y pelfis
  • Ystyriwch effaith clustogau ychwanegol, gallai hyn wneud y gadair yn rhy uchel 

Mae

Mae

Peidiwch ag anghofio'r traed

Gall briwiau pwyso ddigwydd ar y sodlau.  Codwch eich sodlau heb eu pwyso ar unrhyw beth er mwyn lleihau’r risg.

Sicrhewch fod unrhyw offer a roddir ar gyfer y traed wedi'i osod yn gywir.

Mae

Mae

Crebachu'r cyhyrau (eu tynhau)

Gall treulio llawer o amser mewn gwely arwain at grebachu'r cyhyrau (neu dynhau'r cyhyrau).

  • Mae crebachu cyhyrau'n creu pwysau ar rannau o'r corff nad ydyn nhw fel rheol yn cael eu llwytho
  • Gall rhannau'r corff sy'n cysylltu â'i gilydd achosi rhagor o risg
  • Dylai osgo'r ysgwydd a'r glun gyd-fynd â'i gilydd; cefnogwch y coesau os oes angen
  • Pan nad yw eistedd yn bosibl dylid cymryd camau eraill i fod mor hyblyg â phosib
  • Bydd cynhalwyr gwely nid yn unig o fudd yn y tymor hir ond hefyd yn osgoi rhoi pwysau anwastad ar rai rhannau o'r corff.

Mae

Lluniau: hawlfraint PUPIS/Helen Frost

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.