Cydnabyddir bod achlysuron pan all nifer yr ymwelwyr fod yn fwy na dau fesul gwely.
Mae darparu safon uchel o ofal i bobl yn eu blwyddyn olaf o'u bywydau, a'r bobl sy'n bwysig iddynt, yn werth craidd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. I gleifion sy'n derbyn gofal lliniarol er mwyn eu gwneud mor gyfforddus â phosibl yn eu dyddiau olaf, efallai y bydd ymwelwyr yn dymuno aros am gyfnodau hirach o amser, gan gynnwys dros nos, gan eu galluogi i gefnogi a threulio amser gyda'u hanwyliaid.
Cydnabyddir hefyd, pan fydd rhywun â nam gwybyddol yn cael ei dderbyn i'r ysbyty, y gallant deimlo'n fwy dryslyd a phryderus yn aml oherwydd eu bod mewn amgylchedd anghyfarwydd. Efallai y bydd ymwelwyr yn dymuno treulio cyfnodau hirach o amser gyda'u hanwylyd i ddarparu cefnogaeth emosiynol a chorfforol.
Mewn amgylchiadau o'r fath, cytunir ar gynllun presenoldeb a'i gyfleu'n glir i'r holl staff.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.