Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymdrechu i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol sy'n parchu credoau ysbrydol a chrefyddol cleifion ac yn cefnogi eu lles emosiynol ac ysbrydol yn ystod eu hamser yn yr ysbyty.
Dylid trafod trefniadau ymweld ar gyfer arweinwyr ysbrydol a chrefyddol y tu allan i'r amseroedd ymweld arferol gyda Rheolwr y Ward a lle bo modd, darparu ar gyfer hynny. Dylent hefyd allu darparu mynediad at gaplaniaid ar alwad neu ddarparwyr gofal ysbrydol a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd a all gynnig cefnogaeth emosiynol, cwnsela ac arweiniad yn unol â chredoau'r claf.
Mae ystafelloedd aml-ffydd ar gael i ymweld â nhw lle bo'n briodol gyda theulu/gofalwyr a chytundeb y staff.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.