Mae'n ofynnol i Reolwr y Ward neu'r dirprwy dynodedig sicrhau bod y polisi sy'n ymwneud â'u maes gwasanaeth penodol yn cael ei weithredu a bod perthnasau a chleifion yn cael gwybod am y trefniadau amser ymweld. Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal y drafodaeth hon gyda'r claf a'u gofalwr yn ystod y broses dderbyn.
Bydd gwefan rhyngrwyd BIP Bae Abertawe yn cael ei defnyddio i hysbysu ymwelwyr am amseroedd ymweld. Mae'r wefan yn ffordd gyflym o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.