Mwy am ymweld

Dylid arddangos amseroedd ymweld wrth fynedfa'r ardal glinigol.

Mae'r amserlen ymweld yn cynnig hyblygrwydd i berthnasau a chleifion. Mae'n bwysig egluro'n glir bod y gwasanaeth ymweld ar agor rhwng yr oriau penodol ac nad oes rhwymedigaeth i aros am hyd llawn yr amser ymweld. Fodd bynnag, mae gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y person yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr a theuluoedd / ffrindiau yn ei chwarae ym mywydau cleifion a dylai staff drafod gyda theulu / ffrindiau a gofalwyr y rôl yr hoffent ei chwarae wrth helpu i ddarparu gofal i'w perthynas tra byddant yn yr ysbyty. Gall rhai weld bod yn yr ysbyty fel rhyw fath o seibiant o'u cyfrifoldebau dyddiol, tra bod eraill eisiau cadw rôl weithredol.

Dylai staff hysbysu cleifion a'u perthnasau, lle bo'n bosibl, y bydd staff gofal iechyd yn gweithio o amgylch yr amser ymweld i wneud y mwyaf o'r hyblygrwydd. Fodd bynnag, pan nad yw hyn yn bosibl a bod angen gofal, triniaethau neu archwiliadau ar gleifion yn ystod amser ymweld, a allai amharu ar eu hymweliad, dylid hysbysu ymwelwyr o hyn ymlaen llaw lle bo'n bosibl. Dylid hysbysu ymwelwyr hefyd, yn ystod amseroedd ymweld, y gellir gofyn iddynt adael yr ystafell neu'r ward os oes angen i staff ofalu am y claf.

Dylai staff hefyd hysbysu ymwelwyr, er mwyn cynnal cyfrinachedd cleifion, y gofynnir i ymwelwyr adael yn ystod rowndiau ward meddygol. Efallai y bydd adegau hefyd pan fydd gofyn i gleifion adael y ward i fynd am brofion neu sganiau. Dylai staff hysbysu ymwelwyr, lle bo modd, y byddant yn cael rhybudd o hyn, fodd bynnag, efallai y bydd achlysur pan fydd ymwelwyr yn mynychu, ac nad yw cleifion ar y ward.

Dylai gwybodaeth am ffreuturau/caffeterias fod ar gael i ymwelwyr er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra os oes rhaid iddynt aros ychydig cyn gallu dychwelyd i'r ward.