Rhaid i rieni/gofalwyr gytuno i atgyfeirio ar gyfer POB plentyn a pherson ifanc.
Rhaid i rieni neu unigolion sydd â'r awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ar ran plentyn neu berson ifanc roi eu caniatâd ar gyfer pob atgyfeiriad i'r Tîm Therapi Iaith a Lleferydd ar gyfer plant a phobl ifanc 0-18 oed. Cyfrifoldeb y cyfeiriwr yw gofyn am ganiatâd rhieni cyn gwneud yr atgyfeiriad ac egluro'r rheswm dros yr atgyfeiriad.
Pan nad yw cyfrifoldeb rhiant yn glir, gall y tîm Therapi Iaith a Lleferydd ofyn am ragor o wybodaeth fel yr enw sydd ar dystysgrif geni'r plentyn neu'r person ifanc.
Mae plant a phobl ifanc wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae ganddyn nhw hawl i gael dweud eu dweud yn eu triniaeth. Gall plant a phobl ifanc gydsynio'n gyfreithiol i driniaeth unwaith y byddan nhw'n 16 oed neu'n deall digon i wneud y penderfyniad ar eu pen eu hunain.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.