Neidio i'r prif gynnwy

Am gymorth gyda lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu

I lenwi'r ffurflenni hyn yn y Gymraeg, dewiswch yr opsiwn iaith Gymraeg yn y gornel dde uchaf.

Plant 0-3 oed:

I blant 0-3 oed NAD ydynt wedi dechrau ysgol ran-amser neu lawn-amser ac sydd angen cymorth gyda'u lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu, dilynwch y ddolen hon i lenwi ffurflen atgyfeirio ddigidol.

Plant oedran ysgol:

I blant a phobl ifanc sydd wedi dechrau ysgol rhan-amser neu amser llawn ac sydd angen cymorth gyda lleferydd, iaith a/neu gyfathrebu, dilynwch y ddolen hon i lenwi ffurflen atgyfeirio ddigidol.

Ar ôl i'r ffurflen gael ei hanfon, bydd rhywun o'r Tîm Therapi Iaith a Lleferydd yn cysylltu â chi ac yn archebu ymgynghoriad ffôn gyda Therapydd Iaith a Lleferydd.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.