Dylid bwyta bwyd a diodydd sy'n uchel mewn braster a siwgr mewn symiau bach yn unig ac yn anaml. Mae'r rhain yn cynnwys menyn, margarîn, olew, hufen, cacennau, bisgedi, melysion, siocled a diodydd meddal. Maent yn uwch mewn calorïau ond yn is mewn protein, fitaminau a mwynau na grwpiau bwyd eraill.
Ceisiwch gyfyngu ar eu defnydd fel eich bod chi'n eu cael yn llai aml ac mewn symiau llai.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.