Neidio i'r prif gynnwy

Paratoi ar gyfer apwyntiad awdioleg eich plentyn

Efallai bod eich plentyn wedi cael ei atgyfeirio atom ni am brawf clyw gan eich Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu weithiwr proffesiynol arall neu efallai ei fod wedi cael ei weld yn yr Adran Awdioleg o'r blaen ac angen prawf clyw pellach. Efallai nad yw eich plentyn wedi arfer gweld clinigwyr. Felly, efallai yr hoffech ddangos delweddau cartŵn cyfeillgar iddo ar y rhyngrwyd yn gyntaf fel ei fod yn fwy cyfforddus gyda ni.

Bydd sut rydym yn asesu clyw plentyn yn dibynnu ar ei oedran a'i ddatblygiad, ond fel arfer bydd yn cynnwys gêm neu dasg gwrando. Os ydym wedi gofyn i chi ymarfer gemau penodol cyn i chi fynychu, gwnewch hynny gan ei fod yn debygol o wneud yr apwyntiad yn fwy hwyl a llwyddiannus i'ch plentyn.

Os yw eich plentyn dros 2 flwydd a hanner oed, mae rhai gweithgareddau y gellir eu hymarfer gartref cyn eu hapwyntiad. Dilynwch y ddolen hon i weld gwybodaeth sy'n amlinellu'r gweithgareddau hyn.

Er mwyn eich helpu chi a'ch plentyn i deimlo'n fwy parod, mae'r clipiau YouTube canlynol yn dangos i chi beth allai fod yn rhan o'r profion.

Ewch yma i wylio fideo YouTube ar yr hyn y gallai prawf awdioleg plant ei olygu.

Ewch yma i wylio fideo YouTube ar sut i baratoi ar gyfer prawf awdioleg plant.

Noder: Mae'r ddolen uchod ar gael yn Saesneg yn unig. Nid yw'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am wefannau trydydd parti. Ymddiheurwn os bydd hyn yn achosi unrhyw anghyfleustra.

Os ydych chi'n mynychu i adolygu cymhorthion clyw, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod â'r cymhorthion clyw ynghyd ag unrhyw ategolion gyda chi.

Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth cyfathrebu arnoch neu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig. Os ydych chi neu'ch plentyn yn agored i niwed yn feddygol ac yn dymuno i'r aelod staff wisgo mwgwd wyneb, dywedwch wrth yr aelod staff yn yr apwyntiad. Fel arall, cysylltwch â'r adran ar y wybodaeth gyswllt uchod cyn yr apwyntiad i drafod eich gofynion.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.