Neidio i'r prif gynnwy

Methiant y Galon

Beth yw Methiant y Galon?

Mae methiant y galon (HF) yn derm brawychus. Nid yw'n golygu bod eich calon wedi rhoi'r gorau i weithio. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cymorth arni i'w helpu i weithio'n well. Mae methiant y galon yn golygu nad yw'ch calon yn pwmpio gwaed o amgylch eich corff cystal ag y dylai.

Mae methiant y galon yn gyffredin, gan effeithio ar 1-2% o'r boblogaeth a dyma brif achos derbyniadau ysbyty acíwt mewn cleifion dros 65 oed. Mae mwy nag 1 filiwn o bobl wedi cael diagnosis o fethiant y galon yn y DU ac mae hyn yn cynyddu gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio.

Mewn 80% o achosion, mae'r diagnosis yn digwydd yn yr ysbyty, er gwaethaf 40% o gleifion yn profi symptomau a allai fod wedi ysgogi adolygiad cynharach a allai fod wedi atal y derbyniad. Drwy wneud diagnosis cynnar o bobl â HF, rhoi'r gofal arbenigol sydd ei angen arnynt iddynt a chyfuno gwasanaethau, mae'n bosibl lleihau derbyniadau brys diangen i'r ysbyty, gwella ansawdd bywyd a rhoi cyfle i bobl fyw'n dda am hirach.

Fel Gwasanaeth Methiant y Galon sy'n cwmpasu Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth arbenigol ragorol i bobl sy'n byw gyda methiant y galon.   

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.