Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan Abertawe lyfrgell fenthyca gyda gwahaniaeth

Sue Williams a

Mae llyfrgell fenthyca gyda gwahaniaeth yn Abertawe yn helpu i gadw pobl hŷn yn fwy diogel a theimlo'n fwy hamddenol.

Mae'r llyfrgell yn cadw popeth, o gathod artiffisial a disgiau ymlacio, i goffrau meddyginiaeth a chloeon sy'n canu larwm pan agorir drws neu ffenestr.

Gallai hefyd gynnwys doliau babanod sy'n debyg i fywyd cyn bo hir, a fydd yn medru cael effaith leddfol ar bobl hŷn pan fyddant yn mynd yn ofidus.

Prif lun uchod: Sue a'i thîm gyda rhywfaint o'r offer sydd ar gael i'w fenthyg. O'r chiwth i'r dde: Sue Williams; gweithiwr cymorth gofal iechyd Alison Roberts; nyrs seiciatrig gymunedol Debbie Huxtable; gweithwyr cymorth gofal iechyd Jo Cattroll a Helen Williams; a'r arweinydd clinigol Rachel Francis

Ymgasglwyd y llyfrgell dros y tair blynedd diwethaf gan Sue Williams, arweinydd tîm gofal eilaidd gyda’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Pobl Hŷn yn Nhŷ Garngoch ger Gorseinon.

Dywedodd Sue: “Mae’r llyfrgell fenthyca ar gyfer pobl o fewn ein gwasanaeth. Efallai bod ganddyn nhw nam gwybyddol, ond mae gennym ni hefyd bobl â gorbryder, neu amrywiaeth o faterion iechyd meddwl.

“Mae’n rhaid i chi geisio meddwl allan o’r bocs. Sut ydych chi'n mynd i helpu'r person hwn? Mae pawb yn unigryw. Mae gan bawb fecanweithiau ymdopi gwahanol neu ffyrdd o leddfu eu hunain.

“Mae llawer o gymhorthion ar gael. Y broblem yw y gallant gostio cryn dipyn o arian ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddant yn gweithio. Felly rydym yn darparu math o gynnig cyn i chi brynu gwasanaeth.

Sue Williams yn cofleidio un o “Dydyn ni ddim yn eu gwerthu nhw. Rydyn ni'n eu benthyca, ac os yw'r claf neu ei deulu'n teimlo ei fod o gymorth, gallan nhw brynu rhai eu hunain."

Yn y llun: Sue gydag un o gathod artiffisial y llyfrgell

Mae cathod artiffisial yn tawelu ac yn cysuro trwy buro a symud pan gânt eu dal - ond maent yn costio tua £80 yr un.

Yn yr un modd, er bod coffrau meddyginiaeth yn hwb nid ydynt yn rhad - ond eto maent ar gael i'w benthyca o gasgliad Sue.

“Os ydyn ni’n asesu rhywun sydd o bosib yn defnyddio meddyginiaeth yn anfwriadol oherwydd gwybyddiaeth wael, er enghraifft, efallai y byddwn ni’n penderfynu bod yn rhaid i rywbeth gael ei wneud yn gyflym i gynnal diogelwch,” meddai Sue.

“Mae gan y tîm rheoli meddyginiaethau nifer fach iawn o’r coffrau hyn ond yn aml iawn maen nhw i gyd yn cael eu defnyddio.

“Rydym wedi rhoi ein rhai ni allan ar sawl achlysur fel bod modd cloi’r feddyginiaeth i ffwrdd.

“Gall y gofalwr neu berthynas agor y goffr ond ni all y claf ei agor, felly ni ellir cymryd y feddyginiaeth trwy gamgymeriad.

“O safbwynt diogelwch, mae’n un o’r pethau gorau sydd gennym ni.”

Mae offer arall yn cynnwys chwaraewyr CD a disgiau ymlacio, amrywiaeth o lyfrau hunanofal a llyfrau eraill, ffonau lluniau, peli straen, plygiau bath sy'n sensitif i wres, gemau cardiau, dominos mawr, a chyllyll a ffyrc pwysol i bobl sy'n cael trafferth cydio.

Mae yna hefyd gloeon drysau a ffenestri sydd â larymau wedi'u mewnosod sy'n canu os ydynt yn cael eu hagor.

Y caffaeliadau diweddaraf yw dau gloc cof, a roddwyd gan dîm Seiciatreg Gyswllt y bwrdd iechyd, a leolir yn Ysbyty Treforys.

Roedd hyn ar ôl i’r tîm ymgymryd â rhai gweithgareddau codi arian a drefnwyd gan eu hyrwyddwr llesiant a’r nyrs gyswllt Sara Ware.

Mae clociau cof yn arbennig o ddefnyddiol i bobl â dementia, gan eu cefnogi i aros yn gyfarwydd a dweud yr amser a'r dyddiad pan na allant ddefnyddio clociau rheolaidd.

“Mae gan lawer iawn o’r bobl rydyn ni’n delio â nhw nam gwybyddol ac maen nhw’n gweld bod y dyddiau’n gymysg,” esboniodd Sue.

“Pan nad ydych chi'n gweithio, pan nad oes gennych chi reswm i edrych ar ddyddiadur, mae fel pan fyddwch chi'n mynd ar wyliau, rydych chi'n colli golwg ar amser, rydych chi'n colli golwg ar ddyddiau.

“Hoffem ddiolch i Sara a’r tîm cyswllt am roddion mor feddylgar.”

Talwyd am yr offer yn y llyfrgell fenthyca trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cronfeydd elusennol y bwrdd iechyd ei hun.

Mae staff mewn grŵp yn cyflwyno dau gloc cof i Sue Williams Cafwyd rhoddion hefyd gan gleifion diolchgar, teuluoedd ac eraill – gan gynnwys siec o £1,600 a gyflwynwyd gan Madcaps, grŵp dramatig amatur Uniting Church yn Sgeti, yn 2019.

Ar y dde: Mae Sue yn derbyn y clociau cof gan Sara Ware ac aelodau o'r tîm seiciatreg cyswllt

Hefyd y flwyddyn honno cafwyd rhodd fawr gan Bwyllgor Carnifal Waunarlwydd, a enwebwyd gan nyrs arweiniol Bae Abertawe, Marie Williams.

Nesaf ar restr dymuniadau Sue mae doliau babis tebyg i fywyd. Er ei bod yn cyfaddef bod amrywiaeth mewn barn ar y rhain, mae ganddi brofiad personol iawn o'u gwerth.

“Roedd demetia gan fy mam, a gallai fynd yn aflonydd. Rhoes ddoli babi roeddwn i wedi'i benthyca iddi er mwyn gweld os a fyddai'n gweithio. Rhois y doli wrth ei hochr. Cododd mam y babi a dechrau ei gusanu, gan ddweud, 'Fy mabi, fy mabi ...'.

“Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn ddiraddiol. I mi, na. Gyda fy mam, fe weithiodd mor dda. Rhoddodd gymaint o gysur iddi.

“Felly dyna beth arall rydw i eisiau gallu ei brynu fel bod gennym ni'r gallu hwnnw i ddweud wrth bobl - fe allech chi roi cynnig ar hyn.

“Fe wnaeth byd o wahaniaeth absoliwt i les fy mam. Aeth fy nhad allan a phrynu cwpl o ddoliau gwahanol oherwydd ei fod wedi ei helpu hi gymaint.”

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.