Mae defnyddio'ch anadlydd yn gywir yn hanfodol er mwyn cadw'ch asthma neu COPD dan reolaeth dda. Gall techneg wael olygu nad yw'r feddyginiaeth yn cyrraedd eich ysgyfaint yn iawn, a all arwain at waethygu symptomau, a gall hefyd arwain at ddefnyddio anadlydd yn amlach, gan gynyddu eich effaith ar yr amgylchedd.
Mae gan y wefan isod lawer o fideos defnyddiol sy'n dangos sut i ddefnyddio gwahanol anadlyddion yn gywir. Mae eu gwylio yn ffordd wych o wirio'ch techneg gartref.
Os ydych chi'n ansicr a ydych chi'n defnyddio'ch anadlydd yn gywir, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, siaradwch â'ch ymarferydd gofal iechyd. Gallant adolygu'ch techneg a chynnig cefnogaeth i'ch helpu i gael y gorau o'ch triniaeth.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.