Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn rhedeg eich gwasanaethau GIG lleol yn ardaloedd Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe yn ogystal â gwasanaethau arbenigol ar gyfer De-orllewin Cymru a rhai gwasanaethau arbenigol iawn i bobl o ymhellach i ffwrdd.
Rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau yn ein tri phrif ysbyty (Treforys, Singleton a Chastell-nedd Port Talbot) yn ogystal â'n hysbyty cymunedol (Gorseinon), canolfannau adnoddau gofal sylfaenol, meddygfeydd, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr a darparu gwasanaethau cymunedol fel nyrsio ardal , therapi, nyrsio ysgol ac ymweld iechyd.
Rydym hefyd yn darparu ystod o wasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu arbenigol mewn ysbytai a chyfleusterau cymunedol.
Rydym yn cyflogi oddeutu 12,500 o staff ac yn gwario tua £1 biliwn bob blwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd i'r 390,000 o bobl sy'n byw yn ardal Bae Abertawe.
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd a gwell o gydlynu'r gwasanaethau a ddarperir yn ein hysbytai gyda'r gwasanaethau iechyd a gofal a ddarperir yn y gymuned. I wneud hyn rydym yn gweithio'n agos gyda chleifion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, y gwasanaeth ambiwlans, awdurdodau lleol, prifysgolion, a'r sector gwirfoddol yn ogystal â llawer o weithwyr meddygol proffesiynol.