Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Rheoli Poen

Delwedd o grŵp o bobl yn eistedd ac yn gwylio cyflwyniad gan y Rhaglen Rheoli Poen.

Beth yw Rhaglen Rheoli Poen?

Rhaglen ymarferol ac addysgol yw Rhaglen Rheoli Poen (yn Saesneg, PMP yn fyr) sy'n eich cefnogi chi i wneud newidiadau i ansawdd eich bywyd wrth barhau i fyw gyda phoen. Nid yw'n ymwneud â gwneud i'ch poen ddiflannu. Mae'n ymwneud â dysgu a defnyddio sgiliau rheoli poen newydd I ddelio gyda’r poen.

Mae'r PMP yn cael ei redeg gan dîm sy'n cynnwys Seicolegydd Clinigol, Ffisiotherapydd, Nyrs a Therapydd Galwedigaethol. Mae holl aelodau'r tîm yn arbenigo mewn rheoli poen yn barhaus. Bydd y tîm yn eich cefnogi chi i weithio ar y pethau rydych chi am eu cyflawni.

Jig-so Cymraidd Poen Parhaus

Mae'r cwrs yn anffurfiol ac yn cynnwys sgyrsiau a thrafodaethau ar y meysydd canlynol:

  • Poen parhaus a'i effaith ar fywyd
  • Gosod nodau a thawelu
  • Rheoli straen ac ymlacio
  • Rheoli gweithgaredd, hwyliau, a phatrymau cysgu
  • Deall sut mae poen yn effeithio ar berthnasoedd
  • Defnyddio meddyginiaeth yn effeithiol
  • Cyfathrebu
  • Cynllunio ymlaen llaw
  • Cynnal newid
  • Ymarfer graddedig
  • Rheoli fflamychiadau

Gofynnir i chi roi cynnig ar bethau mewn sesiynau grŵp, ac yn y cartref, i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau rheoli poen newydd. Byddwch yn cael taflenni fel atgoffa o'r hyn yr oedd y rhaglen yn ei gynnwys.

Wrth fyw gyda phoen parhaus, gall gweithgaredd corfforol fod yn anodd. Er mwyn helpu i leihau’r anawsterau hyn, bydd rhaglen ymarfer corff a fydd o fudd i’r corff cyfan, nid dim ond ardaloedd sy’n boenus.

Bydd y ffisiotherapydd yn eich helpu i ddysgu sut i wneud ymarfer corff ar y lefel gywir i chi. Anogir pawb i wneud ymarfer corff ar eu cyflymder eu hunain, o fewn eu galluoedd, mewn ffordd nad yw'n dwysáu'r boen am gyfnod hir.

Weithiau mae pobl yn pryderu oherwydd bod seicolegydd ar y PMP, ac yn meddwl tybed a allem feddwl bod eu poen “i gyd yn y meddwl”. Nid dyma'r rheswm. Rydym yn deall bod y boen yn peth go iawn.

Fodd bynnag, yn ogystal ag effeithio arnoch chi'n gorfforol, gall poen gael effaith ar eich meddyliau a'ch teimladau. Gall meddyliau a theimladau hefyd gael effaith ar brofiad poen. Mae'r ffordd rydyn ni'n meddwl ac yn teimlo hefyd yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n ymateb i boen, ac yn gallu newid y ffordd rydyn ni'n rheoli'r anawsterau sy'n dod yn sgil byw gyda phoen.

Gall cael poen hefyd gael effaith ar y rhai o'ch cwmpas. Mae'r seicolegydd yno i'ch helpu chi i ddod o hyd i wahanol ffyrdd o edrych ar bethau, er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r anawsterau ychwanegol a all ddigwydd.

Ar y dechrau, byddwch chi'n mynychu sesiwn Wybodaeth i gwrdd ag aelodau'r tîm ac i roi cyfle i chi ddeall yn llawn pam mae'r PMP wedi'i argymell ar eich cyfer chi. Os credwch, ar yr adeg honno, fod y rhaglen yn iawn i chi, fe'ch gwahoddir i asesiad unigol gyda'r tîm PMP.

Mae'r PMP yn cynnwys un sesiwn grŵp yr wythnos, gyda chwe sesiwn i gyd. Mae pob sesiwn yn bedair awr o hyd, ond bydd egwyliau lluniaeth, ac fe'ch anogir i symud o gwmpas drwyddi draw, yn hytrach nag eistedd mewn un lle am gyfnod rhy hir.

Bydd sesiwn ailasesu byr, unigol ar ôl i'r rhaglen grŵp ddod i ben, a dilyniant grŵp oddeutu 10-12 wythnos ar ôl hynny.

Mae'r rhan fwyaf o bobl â phoen parhaus wedi treulio amser hir yn chwilio am rywbeth sy'n cymryd eu poen i ffwrdd, ac wedi cael llawer o wahanol driniaethau.

Bydd y PMP yn darparu gwybodaeth ynghylch pam, i rai pobl, fod poen yn y tymor hir ac nad yw'n diflannu.

Nid yw’r PMP yn cynnig ‘iachâd gwyrthiol’. Mae pobl yn sicrhau buddion gwahanol o fynychu PMP.

Bydd yn cymryd amser i wneud newidiadau sy'n helpu gyda'r boen. Mae mynychu'r rhaglen fel cymryd gwersi gyrru. Ar y diwedd, byddwch chi'n pasio'ch prawf. Ar ôl y pwynt hwnnw, mae gennych chi rai sgiliau ac rydych chi'n dysgu sut i yrru gyda'ch steil eich hun, mewn ffordd sy'n gweithio i chi.

Mae PMPau yn cael eu hargymell gan Gymdeithas Poen Prydain fel y math gorau o driniaeth i bobl sydd â chyflyrau poen parhaus na ellir eu gwella'n feddygol. Maent yn rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth a all helpu pobl i leihau'r trallod, y dioddefaint a'r anabledd a all ddigwydd wrth brofi poen parhaus.

Ar y dechrau, nid yw llawer o bobl yn siŵr a fydd PMP o gymorth iddynt. Nid yw rhai pobl yn sylwi ar fanteision mynychu tan yn ddiweddarach yn y rhaglen, a dyna pam ei bod yn bwysig eich bod yn mynychu pob sesiwn.

Os ydych chi'n cael anhawster mynychu'r sesiynau, trafodwch y rhaglen cyn dechrau'r rhaglen. Byddwn yn eich cefnogi i fynychu cymaint â phosibl o'r rhaglen.

Bydd hyn yn cynnig profiad grŵp ar-lein o PMP (Pain Management Progrmme - Rhaglen Rheoli Poen). Byddwch yn mynychu nifer o sesiynau ar-lein gyda thua 7 o unigolion eraill a dau aelod o’r tîm Poen Parhaus i’ch cefnogi yn ystod y sesiynau. Trefnir sesiynau ar adegau penodol, yn union fel y byddai rhaglen wyneb yn wyneb. Byddai’n cynnig cyfle i chi drafod eich dysgu a’ch cynnydd gyda chyfranogwyr eraill.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.