Neidio i'r prif gynnwy

Hunanreolaeth Poen Parhaus

Gall poen ddod yn ganolbwynt eich bywyd. Gall deimlo ei fod yn cymryd rheolaeth arnoch chi a gall effeithio ar bron bob agwedd ar fywyd. Gall hunanreoli poen parhaus fod ar sawl ffurf. Efallai y bydd yn dechrau gyda gwneud pethau mwy amlwg a all helpu i leihau'r boen, megis cymryd meddyginiaethau ar bresgripsiwn (os ydyn nhw'n ddefnyddiol), neu ddefnyddio gwres neu rew. Y tu hwnt i hyn, mae hunanreolaeth yn ymwneud â chamu i ffwrdd o'r ffocws ar fod yn gyffyrddus, ac o leddfu'r boen ei hun, a datblygu ffocws ar wneud pethau sy'n lleihau effeithiau negyddol cael poen yn eich bywyd.

  • Gall deall sut mae poen parhaus yn gweithio helpu i ddatblygu ffyrdd gwell o fyw'n dda gyda phoen.
  • Gan dderbyn na ellir gwella poen parhaus, ond y gall ei reoli'n dda wella bywyd bob dydd yn sylweddol.
  • Gall ymestyn ac ymarfer corff o fewn eich galluoedd helpu i'ch cadw'n fwy heini ac yn gryfach, a gall helpu i deimlo'n well yn fwy cyffredinol.
  • Gall peidio â gorwneud pethau ar ddiwrnod gwell olygu y gall nifer y diwrnodau gwell gynyddu dros amser.
  • Gall gwneud rhywbeth ystyrlon a gwerthfawr, hyd yn oed ar ddiwrnod anoddach, olygu bod pwrpas i fywyd, bob amser.
  • Gall gosod blaenoriaethau bob dydd olygu bod y pethau pwysicaf neu werthfawr yn cael eu cynnal.
  • Gall ymlacio helpu i'ch cadw'n ddigynnwrf a gwella'ch hwyliau.
  • Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu chi i fod yn iawn gyda'r ffaith eich bod chi'n profi poen.
  • Gall dysgu bod yn amyneddgar gyda chi'ch hun helpu i dynnu peth o'r pwysau oddi ar fywyd a'ch galluogi i wneud pethau mewn ffordd sy'n gofalu am eich lefel poen.
  • Gall gofalu am eich patrymau cysgu helpu gyda gallu cwrdd â heriau ac anawsterau bywyd bob dydd yn well.
  • Gall cael cynllun wrth gefn ar gyfer rhwystrau i'ch cynlluniau dewis cyntaf olygu pan fydd pethau'n anoddach, mae'r pethau pwysicaf yn dal i gael eu cyflawni.

I'r rhan fwyaf o bobl, nid yw hunanreolaeth yn dod yn hawdd nac yn naturiol. Mae'n cymryd amser ac ymarfer, ond gall fod o leiaf mor effeithiol â meddyginiaeth wrth wella ansawdd bywyd gyda phoen parhaus.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.