Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Triniaeth Llawfeddygaeth Blastig

Amdanom ni

Gall cleifion â rhai mathau o anafiadau trawma a chanserau croen nawr gael triniaeth gyflymach.

Yn lle diwrnodau aros neu hyd yn oed wythnosau am fân lawdriniaeth yn dilyn eu hapwyntiad claf allanol neu atgyfeirio, gellir trin rhai ar yr un diwrnod.

Mae'r Ganolfan Triniaeth Llawfeddygaeth Blastig yn cynnig llawdriniaeth achos dydd i'r cleifion hynny nad oes angen anesthetig cyffredinol arnynt.

Yn lle aros i theatrau llawdriniaethau ddod ar gael, mae'r cleifion yn cael eu gweld mewn ystafelloedd triniaeth ac yn cael mynd adref ychydig oriau'n ddiweddarach.

Disgwylir i'r ganolfan newydd, sydd hefyd ag ardal adfer chwe gwely, drin rhwng 2,400 a 3,200 o achosion y flwyddyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.