Neidio i'r prif gynnwy

Treialon clinigol Canser a Haematoleg

Ynglŷn â threialon clinigol

Mae gan y Ganolfan Ganser uned treialon clinigol oncoleg sy'n cefnogi ystod eang o dreialon clinigol canser.

Mae'r tîm ymchwil yn cynnwys ymgynghorwyr / clinigwyr oncoleg hyfforddedig a phrofiadol iawn, nyrsys ymchwil, swyddogion, radiograffwyr a staff gweinyddol.

Mae ein tîm ymchwil yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i gynnig cyfle i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol addas. Pan fydd meddyg yn trafod triniaeth ganser gyda chlaf, un o'r opsiynau a drafodir yw cymryd rhan mewn treial clinigol.

Beth yw treialon clinigol mewn ymchwil canser?

Gelwir astudiaethau ymchwil feddygol sy'n cynnwys pobl yn dreialon clinigol. Mae hwn yn gam hanfodol wrth datblygu triniaeth. Mae treialon clinigol mewn canser yn edrych ar:

  • Risgiau ac achosion - sut y gall geneteg, ffordd o fyw a ffactorau eraill gynyddu risg pobl o ganser
  • Atal canser - defnyddio cyffuriau, diet neu ymyriadau eraill i leihau risg
  • Sgrinio - ar gyfer pobl sydd â risg uwch na'r cyfartaledd, neu ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol
  • Diagnosio canser - profion neu sganiau newydd
  • Triniaethau - cyffuriau newydd neu gyfuniadau o gyffuriau, ffyrdd newydd o roi triniaeth, a mathau newydd o driniaeth
  • Rheoli symptomau neu rheoli sgîl-effeithiau.

Mae cymryd rhan mewn treial clinigol yn wirfoddol ac nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan. Rhoddir gwybodaeth ysgrifenedig a llafar i gleifion a rhoddir digon o amser iddynt ystyried eu penderfyniad. Mae'r tîm ymchwil yn cefnogi cleifion trwy eu penderfyniad ac yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau

 

 

 

 

 

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.