Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant a Chymwysterau

Mae ffisiotherapyddion yn cwblhau cwrs gradd 3 neu 4 blynedd ar raglen hyfforddi gymeradwy. Ar ôl cwblhau rhaglen gymeradwy maent yn gymwys i fod yn aelod o Gymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP) sef y corff proffesiynol, addysgol a chorff undeb llafur ar gyfer y 47,000 o Ffisiotherapyddion Siartredig, Myfyrwyr a Chynorthwywyr Ffisiotherapi yn y DU.

Mae cyrsiau cymeradwy hefyd yn rhoi cymhwysedd i wneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae cofrestru gyda'r HCPC yn ofyniad hanfodol i ymarfer ffisiotherapi a galw eich hun yn ffisiotherapydd yn y DU.

Rhaid i bob ffisiotherapydd sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod wedi'i gofrestru gyda'r HPC.

Mae gwefan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP) yn cynnwys manylion ynghylch pam dewis gyrfa ffisiotherapi, dod o hyd i radd ffisiotherapi, gwybodaeth am brentisiaethau ffisiotherapi, gyrfaoedd, cymorth ariannol i fyfyrwyr ac adnoddau eraill.

Ewch yma i ymweld â gwefan Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSF).

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.