Neidio i'r prif gynnwy

Ydw i mewn categori risg uchel?

Rydym yn cynghori'r rhai sydd â risg uwch o salwch difrifol o coronafeirws (COVID-19) i fod yn arbennig o gaeth wrth ddilyn mesurau pellhau cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys pobl dros 70 oed a phobl â chyflwr cronig, fel anhwylderau niwrolegol.

Defnyddir rhai meddyginiaethau i drin cyflyrau niwrolegol sy'n rhoi pobl mewn risg uwch o salwch difrifol o COVID-19. Gweler gwefan y Llywodraeth i gael mwy o wybodaeth am bwy sydd mewn mwy o berygl.

Os ydych chi'n cymryd cyffuriau sy'n lleihau effeithiolrwydd eich system imiwnedd, yna rydych chi mewn mwy o berygl. Mae'r cyffuriau hyn yn cynnwys:

  • Steroidau fel tabledi prednisolone;
  • Cyffuriau ataliol imiwnedd fel azathioprine, methotrexate, cyclophosphamide, rituximab a mycophenalate
  • Rhai cyffuriau MS (gweler gwybodaeth Niwro-llidiol)

Os ydych mewn risg uchel, dylech ddilyn canllawiau pellhau yn unol â chyngor llywodraeth y DU a monitro gwefan y llywodraeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws ac arweiniad aros gartref.

 

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir gohebiaeth Gymraeg yn y Gymraeg, ac ni fydd hyn yn arwain at oedi.